Santes o ddiwedd y 5g oedd Cymorth (talfyriad: Corth).
Mae'n debygol fod Cymorth yn ferch neu'n nith i Gynheiddon, merch Brychan Brycheiniog, a gydweithiodd gyda hi.[1] Mae'r Vita Brynach (11g) yn galw Cymorth yn "ferch Brychan" ond gan nid yw hi yn cael ei henwi yn y Cognatio mae'n debyg ei bod hi yn wyres iddo. Cyfeirir at Cymorth fel dynes a drigodd ar Fynydd Cymorth (neu Gyfor) ger Cydweli tref bychan yn Sir Gaerfyrddin heddiw).
Mae'r Vita Brynach (12g)[1] yn dweud fod Cymorth wedi priodi Brynach Wyddel, cynghorydd Brychan, a elwir weithiau, oherwydd ei gysylltiad priodasol, yn "fab Brychan". Cawsant nifer o blant, rhai ohonynt, Mabyn, Mynfer, Mwynen ac Endelyn yn santesau Cernyw.[2]
Amheuaeth
Yn ôl T. Thornley Jones mae'r Vita Brynach (12g)[3] yn datgan fod Brynach wedi priodi Cymorth. Mae T. T. Jones yn nodi fod gan Cymorth cysylltiad agos gyda Cynheiddon. Yn y fersiwn Vespasian o'r Cognatio (11g), mae'n dweud "Keneython(Cynheiddon) in y mynid cheuor in Kidweli" ac yn y fersiwn Domitian (13g) [4]" Koneidon apud Kydwely monte Kyfor". Mae T. T. Jones yn cyfeirio at fryn yn ymyl pentref Llangynheiddon a elwid Mynydd Cyfor gydag adfeilion capel arno. Roedd tir gan Brynach yn yr un ardal; yn Llanfrynach.
Yn ôl Peter Clement Bartrum (g. A Welsh Classical Dictionary[5]) (sydd ddim yn cyfeirio at Vita Brynach) (12g) nid oedd y fath berson yn bodoli, a honnodd mai camddarllen dogfen roddodd fodolaeth i'r enw. Mae'n dweud fod William Morris (18g) wedi camdarllen 'Cymorth' o 'Mynydd Cymorth' yn BL.Add.MS.14,916 (Llyfr Bodeulwyn) i olygygu person yn hytrach na mynydd. Copiwyd hyn gan Lewis Morris (18g) ac oddi yno i MA2 tt.420, 428 ac ymhellach i Iolo Morgannwg (19g) a ychwanegodd ei bod yn wraig i Frynach Wyddel. Er nid yw Iolo Morgannwg yn hollol ddibenadwy mae Vita Brynach yn cadarnhau y gwybodaeth hwn. Mae Bartrum yn dibynnu hefyd am wybodaeth ar waith G.H. Noble, awdur Fictoraidd(19g)[6] sydd yn adnabyddus am honni naill fod santesau yn saintiau gwrywaidd neu nid oeddent yn bodoli gan nid oedd yn credu fod menywod yn medru arwain, neu teithio, neu sefydlu llannau.
Gellid gofyn os Cymorth rhoddodd ei henw i Fynydd Cyfor (mewn cyfnod pan oedd enw santes yn cael ei chynnwys mewn nifer o lefydd ) neu os tarddodd enw Cymorth o'r bryn cyfagos.
Gwelir hefyd
Dylid darllen yr erthygl hwn yng nghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Jones, T.T.1977, The Daughters of Brychan, Brycheiniog; XVII
- ↑ Spencer. R. 1991, The Saints of Wales and the West Country, Llanerch.
- ↑ Baring-Gould a Fisher, gol.Bryce, 1990, The Lives of the British Saints, Llanerch
- ↑ Jones, T.T.,1977, The Daughters of Brychan, Brycheiniog XVII
- ↑ Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 18 Rhagfyr 2017. Dywed Bartrum: Cymorth in BL.Add.MS.14,883 fo.132v, which is derived through a misreading by William Morris(18g) of BL.Add.MS.14,916 (Llyfr Bodeulwyn) fo.17v, corresponding to Plant Brychan §3r in EWGT p.83, where the word ‘Cymorth’ of ‘Mynydd Cymorth’ appears at the beginning of a line, and was taken to be the name of a daughter of Brychan. This got into the ‘Alphabetic Bonedd’ compiled by Lewis Morris and so into MA2 tt.420, 428. It was then adopted by Iolo Morganwg, who made Cymorth or Corth the wife of Brynach ‘Wyddel’.
- ↑ Doble, G.H. gol. Evans, 1984, Lives of the Welsh Saints, Gwasg Prifysgol Cymru