Cymdeithas John Gwilym JonesEnghraifft o: | literary society |
---|
Cymdeithas Lenyddiaeth Gymraeg Prifysgol Bangor yw Cymdeithas John Gwilym Jones a sefydlwyd ar yr 2il o Hydref 2018. Roedd hen Gymdeithas Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor wedi ei hail-sefydlu rai blynyddoedd ynghynt, ond mynd i'r gwellt oedd ei hanes unwaith yn rhagor. Yn sgil methiant y gymdeithas honno, daeth criw o fyfyrwyr y Brifysgol at ei gilydd i drafod y ffordd ymlaen, a ffrwyth y trafodaethau hynny oedd sefydlu'r Gymdeithas hon. Penderfynwyd enwi'r Gymdeithas ar ôl y dramodydd enwog John Gwilym Jones, a hynny am y cred nifer o bobl na wnaed digon i goffau'r llenor o'r Groeslon wedi ei farwolaeth.
Sefydlwyd y Gymdeithas mewn noson arbennig yn Bar 1884, rhan o'r Brifysgol. Dathliad o allbwn llenyddol dinas Bangor oedd y noson, gyda darlleniadau, perfformiadau a cherddoriaeth.
To Iau ar Ben Tŷ Awen
Ysgrifennwyd cywydd cyfarch i'r Gymdeithas gan y bardd Eurig Salisbury.[1]
Dyma bwt ohoni:
Mae 'na griw ym Mangor wen,
Un criw i swcro'r awen,
Criw llafar sy'n creu llwyfan
Ac wrth roi gwerth ar y gân
Yn bloeddio'n anterth chwerthin,
"Nosweithiau byw, yn syth bìn!"
Digwyddiadau
Yn ystod y flwyddyn cyntaf trefnwyd sawl digwyddiad ar gyfer cymuned myfyrwyr y Brifysgol. Ond y digwyddiad pwysicaf yn y nyddiau cynnar y gymdeithas, heb oes, oedd y sgwrs flynyddol[2] a gynhaliwyd er cof am John Gwilym Jones ei hun.
Ac Eto Nid Myfi
Ar 15 Mawrth 2019 llwyfannwyd cynhyrchiad o un o ddramâu enwocaf John Gwilym Jones, sef Ac Eto Nid Myfi. Roedd yn ddigwyddiad yn hanesyddol gan mai dyma'r tro cyntaf i'r gymdeithas, a'i rhagflaenydd (Cymdeithas Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor) lwyfannu cynhyrchiad yn nghanolfan Pontio.
Yn ôl y gymdeithas: "Dyma ddrama ddifyr a bywiog sy’n trafod llencyndod a thyfu i fyny, cariad a pherthynas pobl â’i gilydd, ond y cwestiynau pwysicaf a godir ganddi yw pwy ydym ni, a beth sy’n pennu llwybr ein bywyd. Perfformiwyd y ddrama hon am y tro cyntaf gan aelodau Cymdeithas y Ddrama Gymraeg, Coleg Bangor, a dyma berfformiad gan y gymdeithas honno ar ei newydd wedd a dan ei henw newydd, sef Cymdeithas John Gwilym Jones."
Gwerthwyd y tocynnau i gyd mewn llai nag wythnos i'r digwyddiad fynd yn gyhoeddus.
Galw am ail-enwi Stiwdio Pontio
Ym mis Hydref 2018 daeth y gymdeithas i sylw'r wasg genedlaethol pan ysgrifenasant lythyr cyhoeddus yn galw i ail-enwi Stiwdio Pontio ar ôl John Gwilym Jones.[1] Roedd y llythyr wedi ei arwyddo gan ddegau o ffigurau amlwg o fyd y theatr Gymraeg, gan gynnwys Cefin Roberts. Serch hynny, gwrthodwyd y cais.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- "Gwedd newydd i gymdeithas ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor", BBC Cymru Fyw
- "Galw am ail-enwi rhan o ganolfan Pontio ar ôl John Gwilym Jones", Golwg360
- "Beirniadaeth yn gadael ei hôl ar iaith lafar Meic Povey", Golwg360
- "Cywion John Gwil yn cynnal S4C yn y dyddiau cynnar", Golwg360
- "Darlithydd mynegiant, cyn bod coleg i actorion Cymraeg", Golwg360
- "Dramâu John Gwil yn haeddu cael eu llwyfannu’n broffesiynol", Golwg360
- "About the Soc", Cymdeithas John Gwilym Jones, Gwefan Undeb Myfyrwyr Bangor
- "Cymdeithas John Gwilym Jones", Facebook
- "Cymdeithas John Gwilym Jones", Twitter