Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a'r Cylch
Sefydlwyd Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a'r Cylch yn Nhrefynwy yn 2008. Prif nod y gymdeithas yw hybu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn Nhrefynwy a'r Cylch trwy weithgareddau megis teithiau cerdded, darlithoedd a chyfleoedd eraill lle gellir ymarfer y Gymraeg yn gymdeithasol. Yr Ysgrifennydd (ac un o brif sefydlwyr) y gymdeithas yw Robin Davies. Mae aelodau'r gymdeithas yn ymweld ag Ysgol Gyfun Trefynwy yn wythnosol er mwyn hybu'r Gymraeg mewn gwahanol ffyrdd. fel arfer, cynhelir cyfarfodydd y gymdeithas ym Mhriordy Trefynwy.
Mae'r gymdeithas yn noddi Eisteddfod y Fenni yn flynyddol ac yn cynnal stondin yn Sioe Sir Fynwy hefyd yn flynyddol ac yn trefnu teithiau i lefydd hanesyddol a diddorol e.e. Maenordy Llancaiach Fawr ac yn cydweithio gyda Choleg Gwent i drefnu cymanfa ganu'n flynyddol yng nghapel y Bedyddwyr yn Rhaglan. Codwyd arian tuag at Ysgol Gyfun Trefynwy a thuag at Menter Iaith Blaenau gwent, Torfaen a Mynwy.
Gweler hefyd