Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (Saesneg: The Football Association (FA)) ydy corff llywodraethol pêl-droed yn Lloegr, Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw. Fe'i ffurfiwyd ym 1863 sy'n golygu ei fod y gymdeithas bêl-droed hynnaf yn y byd ac fel y gymdeithas gyntaf erioed, nid yw'r gair English yn ymddangos yn nheitl swyddogol y gymdeithas.
Mae'r FA yn aelodau o UEFA a FIFA ac â sedd barhaol ar y Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol (IFAB) sy'n gyfrifol am lunio rheolau'r gamp. Mae'r FA yn aelod o Gymdeithas Olympaidd Prydain Fawr (BOA), sy'n golygu mai'r FA sydd yn gyfrifol am dimau pêl-droed Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd[1].