Cyberman

Hil ffuglennol o seiborgiaid yw Cybermen, ac maen nhw ymhlith gelynion Doctor Who sydd wedi ymddangos droeon yn y rhaglenni teledu o'r un enw. Rh

Cyberman
Cyberman
Enghraifft o:humanoid extraterrestrial species from Doctor Who, group of fictional characters Edit this on Wikidata
Mathcyborg in a work of fiction Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Hil ffuglennol o seiborgiaid yw Cybermen, ac maen nhw ymhlith gelynion Doctor Who sydd wedi ymddangos droeon yn y rhaglenni teledu o'r un enw. Rhywogaeth o seiborgiaid di-emosiwn yw'r Cybermen sy'n teithio'r gofod ac yn ceisio dal bodau dynol neu rywogaethau tebyg a'u troi fel hwythau. Gan ymddangos gyntaf yn 1966, cafodd y Cybermen eu creu gan Dr. Kit Pedler (cynghorydd answyddogol i'r sioe) a golygydd y stori Gerry Davis.

Ailddyluniad y Cybermen yn 2006

Mae'r Cybermen wedi newid eu dyluniad a'u gwisg lawer gwaith ers iddynt ymddangos gyntaf ar Doctor Who. Mae hefyd nifer o straeon ynghylch eu tarddiad. Yn eu hymddangosiad cyntaf, yn y bennod The Tenth Planet (1966), maent wedi'u creu gan ddynoliaeth o "efaill blaned" y Ddaear, Mondas, sydd wedi uwchraddio eu hunain i seiborgiaid mewn ymgais i ddiogelu eu dyfodol. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd y bennod "The Age of Steel" (2006) yn rhoi hanes eu tarddiad ar fersiwn o'r Ddaear mewn bydysawd cyfochrog. Mae'r dramau radio, nofelau a llyfrau comic Doctor Who hefyd wedi ymhelaethu ynghylch tarddiad y Cybermen, neu gyflwyno straeon tarddiad amgen.

Ym mhennod "The Doctor Falls" yn 2017, dywedir bod y Cybermen yw'r prif enghraifft o esblygiad cyfochrog y bydysawd, oherwydd ei bod yn anochel y bydd y ddynoliaeth a rhywogaethau tebyg eraill yn ceisio uwchraddio eu hunain gan ddefnyddio technoleg, sydd trwy hynny'n datrys tensiynau ynghylch cysondeb yn hanes y Cybermen.

Cyfeiriadau

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.