O'i gymharu â llawer o gymoedd eraill, mae gan Cwm Glas Bach gasgliad llawer mwy cyfoethog o blanhigion na sy'n arferol ar fynydd yng Nghymru. Mae'r gair glas yn yr enw yn cyfeirio at y cyfoeth hwn - oherwydd natur calchog y creigiau yn y cwm. Mae nifer o gymoedd eraill wedi cael enwau tebyg, e.e. Cwm Glas Mawr a Chwm Glas Crafnant.