Crugiau crynion a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crugiau Tremeirchion, yng nghymuned Tremeirchion, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ110759. Mae'n mesur 29 metr wrth 1.6m.
Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: FL047.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.
Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]
Crugiau crwn eraill
- Ceir crug crwn arall gerllaw, sef "Crug Criafol": cyfeirnod grin: SJ09317611.[3] Mae'n mesur 34 metr wrth 1.7m.
- Dau grug ar Foel Efa:
- SJ08687434 [4] 13 metr wrth 0.6m.
- SJ08717441 sy'n 10 metr mewn diamedr ac yn 13 metr o uchder. Mae'n bosib mai hwn ydy'r crug crwn talaf yng Nghymru.[5]
- Crug crwn Pant y Dulath; cyfeirnod grid: SJ09677624.[6] Mae hwn yn perthyn i Oes yr Efydd yn ôl archwiliad 1967.
Gweler hefyd
Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:
Cyfeiriadau
Dolen allanol