Mae Craig Wion yn gopa mynydd a geir yn y Rhinogydd i'r de-orllewin o Lyn Trawsfynydd, Gwynedd; cyfeiriad grid SH664319. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 484metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Ceir dau lyn bychan anghysbell ger copa Craig Wion, sef Llyn Pryfed (1,780 troedfedd) a Llyn Twrglas.
Dosbarthu'r copaon
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 566 metr (1857 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 10 Mawrth 2007.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolennau allanol