Mae Count Binface (ganwyd Jonathan David Harvey)[1] yn ddigrifwr o Loegr, sy'n ymgeisydd dychanol mewn etholiadau seneddol. Mae Binface yn disgrifio ei
| Count Binface | |
|---|---|
| Ffugenw | Count Binface |
| Ganwyd | Jonathan David Harvey Mai 1980 Croydon |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ymgeisydd gwleidyddol, podcastiwr, sgriptiwr, novelty candidate |
| Gwefan | https://www.countbinface.com/ |
Mae Count Binface (ganwyd Jonathan David Harvey)[1] yn ddigrifwr o Loegr, sy'n ymgeisydd dychanol mewn etholiadau seneddol. Mae Binface yn disgrifio ei hun fel "rhyfelwr gofod annibynnol". Mae e'n gwisgo helmed fawr siâp bin. Yn y gorffennol, safodd Harvey fel cymeriadau eraill, fel Yr Arglwydd Buckethead.[angen ffynhonnell]
Mae Harvey wedi defnyddio Binface i hyrwyddo cyfranogiad etholiadol, gyda'r slogan Saesneg "Make Your Vote Count," jôc sydd yn dibynnu ar ystyr ddwbwl y gair count: "Gwnewch i'ch bleidlais gyfrif" neu "Gwnewch eich bleidlais yn bleidlais dros yr Iarll [Binface]". Safodd Harvey yn wreiddiol fel ymgeisydd annibynnol; ers 2023, mae'n dweud ei fod yn cynrychioli Plaid y Count Binface.[2]
Ar 7 Gorffennaf 2026, cyhoeddodd Nigel Farage ei fod yn ymddiswyddo fel AS Clacton, gan sbarduno isetholiad.[3] Gofynnodd Binface i'r prif bleidiau eraill sefyll i lawr, a dywedodd: "Byddaf yn ymgeisydd undod ac yn addo adeiladu o leiaf un tŷ fforddiadwy. Mae Nigel Farage yn dweud ei fod eisiau'r bobl yn erbyn y sefydliad. Boed hynny felly. Gadewch ef i mi."[4][5] Mae'r prif bleidiau (y Democratiaid Rhyddfrydol, y Ceidwadwyr, Llafur, y Gwyrddion), a mân bleidiau eithafol megis Restore Britain yn dweud na fyddant yn cymryd rhan yn yr is-etholiad.[6][4]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.