Cymdeithas sy'n bodoli "er mwyn cadw'r iaith Wyddeleg yn fyw ar dafod leferydd yn Iwerddon" yw Conradh na Gaeilge neu Connradh na Gaedhilge (hen enw Saesneg Gaelic League: 'Cynghrair y Wyddeleg').
Cafodd y Cynghrair ei sefydlu yn Nulyn ar 31 Gorffennaf, 1893 gan Douglas Hyde, Protestant o Frenchpark, Swydd Roscommon gyda chymorth Eugene O'Growney, Eoin MacNeill, Luke K. Walsh ac eraill. Datblygodd Conradh na Gaeilge o'r Undeb Gwyddeleg cynharach a thyfodd i fod y prif sefydliad yn yr Adfywiad Gwyddeleg yn hanner cyntaf yr 20g. Papur newydd cyntaf y Cynghrair oedd An Claidheamh Soluis ("Cleddyf y Goleuni") a'i olygydd pwysicaf oedd Pádraig Pearse.
Yn ddiweddar bu gan Conradh na Gaeilge ran flaenllaw yn yr ymgyrch llwyddiannus i gael cydnabyddiaeth o'r Wyddeleg fel un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.
Dolenni allanol