Mae Comisiwn Iaith Māori (Māori: Te Taura Whiri ite Reo Māori; yn Saesneg: Māori Language Commission) yn endid hunanlywodraethol y Goron yn Seland Newydd a sefydlwyd gan Ddeddf Iaith Māori Seland Newydd 1987 (Deddf Iaith Māori) .[1][2] Mae Deddf Iaith Māori 2016, a ddisodlodd yr un flaenorol, yn parhau â bodolaeth a rôl y Comisiwn.[3] Mae pencadlys y corff yn 10 Customhouse Quay, Wellington.
"Rydym yn bodoli i hyrwyddo te reo. Sefydlwyd Comisiwn Iaith Māori o dan Ddeddf Iaith Māori 1987 a pharhaodd o dan Te Ture Reo Māori 2016 i hybu’r defnydd o Māori fel iaith fyw ac fel cyfrwng cyfathrebu arferol."
”
Mae gan y Comisiwn sawl cenhadaeth gan gynnwys cychwyn, datblygu, cydgysylltu, archwilio, cynghori a chynorthwyo i weithredu polisïau, gweithdrefnau, mesurau ac arferion a luniwyd i weithredu’r datganiad yn adran 3 o’r Ddeddf Iaith hon Māori fel iaith swyddogol Seland Newydd.
Swyddiogaethau penodol
Ceir pum prif swyddogol yn ôl Deddf Iaith Māori 1987:
Cychwyn, datblygu, cydgysylltu, adolygu, cynghori a chynorthwyo i weithredu polisïau, gweithdrefnau, mesurau, ac arferion a luniwyd i roi effaith i’r datganiad yn adran 3 o’r Ddeddf hon o’r iaith Māori fel iaith swyddogol y Gymdeithas. Seland Newydd
Hyrwyddo’r iaith Māori yn gyffredinol, ac, yn arbennig, ei defnydd fel iaith fyw ac fel cyfrwng cyfathrebu arferol.
Y swyddogaethau a roddir i’r Comisiwn gan adrannau 15 i 20 o’r Ddeddf hon mewn perthynas â thystysgrifau cymhwysedd yn yr iaith Māori
Ystyried ac adrodd i’r Gweinidog ar unrhyw fater yn ymwneud â’r iaith Māori y gall y Gweinidog ei gyfeirio o bryd i’w gilydd at y Comisiwn am ei gyngor.
Swyddogaethau eraill y gellir eu rhoi i'r Comisiwn gan unrhyw ddeddfiad arall
Hanes
Sefydlwyd y Comisiwn wedi degawdau o ymgyrchu dros hawliau iaith frodorol Seland Newydd, y Maori.
Am y rhan fwyaf o'r 20g bu i lywodraeth Seland Newydd atal, gwahardd a'i gwneud yn gymdeithasol annerbyniol i siarad te reo Māori (yr iaith Maoreg) yn agored. Yn 1972 cyflwynodd hyrwyddwyr iaith Māori ddeiseb yn galw am ddysgu te reo mewn ysgolion sef, Deiseb Iaith Māori, i’r senedd. Roedd y ddeiseb yn cynnwys llofnodion mwy na 30,000 o Seland Newydd.
Daeth y diwrnod hwnnw – 14 Medi 1972 – yn Ddiwrnod yr Iaith Māori, a ehangodd maes o law i’r hyn a adwaenir gennym fel Wythnos yr Iaith Māori. Arweiniodd eu protest heddychlon hefyd at hawliad llwyddiannus Iaith Māori i Dribiwnlys Waitangi a deddfiad Deddf Iaith Māori 1987. Roedd y Ddeddf yn cydnabod Maoreg fel iaith swyddogol a hefyd yn creu yr hyn y galwa'r Maori yn "whare" - sef 'cartref', 'tŷ' efallai'n atosach i'r cysyniad Gymraeg o gynefin, i'r iaith).
Aelodau'r bwrdd sefydlu oedd Syr Tīmoti Karetū, Syr Kīngi Matutaera Ihaka, Y Fonesig Kāterina Te Heikōkō Mataira, Anita Moke a Dr Ray Harlow. Bu i Syr Tīmoti Karetū fod yn bennaf gyfrifol am sefydlu Toitū Te Reo yn 2024, sef gŵyl iaith Maori a ysbrydolwyd gan yr Eisteddfod Gymraeg.[5]
Bathu enw
Yn wahanol i Gomisiynwyr iaith eraill, nid yw teitl y swydd neu'r sefydliad yn cynnyw y gair "comisiwn" neu "comisiynydd" er mai dyna oedd yr enw i gychwyn. Yng nghyfarfod cyntaf y bwrdd yr enw gweithredol oedd ‘'Te Komihana mō te Reo Māori’', cyfieithiad o 'Gomisiwn yr Iaith Māori'. Gweithred gyntaf y bwrdd oedd disodli hwn gydag enw a deimlent oedd yn fwy cynhenid Māori sef: ‘'Te Taura Whiri i te Reo Māori', sydd, o'i gyfieithu yn uniongyrchol yn cyfieithu i "y rhaff sy’n clymu’r iaith". Bathwyd yr enw gan Syr Kingi oherwydd mai'r "rhaff sy'n ein clymu ni i gyd gyda'n gilydd yw ein hiaith. Rhaff sy'n cael ei gweu gan bob llwyth a phob person i fod yn gryf am byth." Yn yr un cyfarfod crëwyd y logo, rhaff wedi'i gwehyddu'n rhannol, gan y Fonesig Kāterina.[6]
Prif Weithredwyr
1987 - 1999 - Tīmoti Kāretu oedd y Prif Weithredwr gyntaf rhwng 1987 a 1999. Sefydlodd yr Adran Maori ym Mhrifysgol Waikato yn 1972 a sawl gyfraniad sylweddol arall i'r iaith a'r diwylliant Maori.[7]
2015 - Prif Weithredwr y Comisiwn yn 2024 oedd Ngahiwi Apanui, cerddor, ymgyrchydd iaith, cyflwynydd radio, sefydlwr gorymdeithiau iaith Maori, ac addysgwr.[8]