Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Lincoln, Dwyrain Canolbarth Lloegr, ydy Colsterworth.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan De Kesteven. Mae'n gorwed
| Math | pentref, plwyf sifil |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Ardal De Kesteven |
| Poblogaeth | 1,821, 1,508, 1,713 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.8055°N 0.6182°W |
| Cod SYG | E04005894 |
| Cod OS | SK932240 |
| Cod post | NG33 |
![]() | |
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Lincoln, Dwyrain Canolbarth Lloegr, ydy Colsterworth.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan De Kesteven. Mae'n gorwedd llai na hanner milltir (0.8 km) i'r gorllewin o'r A1, tua 7 milltir (11 km) i'r de o Grantham, a 12 milltir (19 km) i'r gogledd-orllewin o Stamford. Roedd gan y pentref, gyda phentrefig Woolsthorpe-by-Colsterworth, boblogaeth o 1,713 ar adeg Cyfrifiad 2011 mewn ardal o 1,465 hectar (3,620 erw).
Mae'r plwyf sifil yn cynnwys pentrefig Woolsthorpe-by-Colsterworth, 0.6 milltir (1 km) i'r gogledd-orllewin o Colsterworth. Mae'r plwyf yn rhannu cyngor plwyf grŵp gyda Gunby a Stainby a Gogledd Witham, a elwir yn Gyngor Plwyf Colsterworth a'r Cylch.[2]
Mae Woolsthorpe-by-Colsterworth yn nodedig fel man geni Syr Isaac Newton, mae ei gartref, Woolsthorpe Manor, yn atyniad i ymwelwyr. Adeiladwyd neuadd bentref Woolsthorpe-by-Colsterworth o ganlyniad i apêl er cof am Newton, ac fe'i henwyd ar ei ôl. Bedyddiwyd Newton yn eglwys y plwyf Sant Ioan Fedyddiwr, lle mae copi o'r cofnod yn y gofrestr i'w ganfod.
Mae eglwys y plwyf sydd wedi ei gysegru i Sant Ioan Fedyddiwr wedi bod yn adeilad rhestredig Gradd I ers 1966. Mae ei darddiad yn mynd yn ôl i'r cyfnodau Sacsonaidd Mae'n nodweddiadol am y gwaith cerrig asgwrn penwaig sydd yn y gangell. Gwarchodwyd y bwa Normanaidd yn ystod adnewyddiad Fictoraidd, ac mae'r eglwys hon yn enghraifft wych ohoni. Mae'r fynwent amgylchynol wedi'i gau ers bron i ganrif ond fe'i cedwir mewn trefn gan Gyngor y Plwyf. Y tu mewn i'r eglwys, tu ôl i'r organ, mae plât cloc haul carreg a gafodd ei thorri gyda chyllell boced Syr Isaac Newton pan oedd yn naw mlwydd oed. Mae rhieni Newton, Hannah Ayscough (bu farw 1679) a'i dad Isaac yr hynaf (bu farw 1642) wedi eu claddu ym mynwent yn yr eglwys.
Ym 1884, roedd y Parch John Mirehouse, rheithor Colsterworth, yn gyfrifol am y stỳnt gyhoeddusrwydd a sgandal Baban y Swyddfa Gartref.[3][4]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.