Fel gweddill Alsace, mae gan Colmar gysylltiadau hanesyddol cryf â'r Almaen. Meddiannwyd y ddinas gan yr Almaenwyr o 1871 hyd 1919 ac eto yn yr Ail Ryfel Byd (1940-1945).
Mae ganddi nifer o adeiladau hanesyddol o'r Oesoedd Canol ymlaen, yn cynnwys y fynachlog Ddominicaidd (sefydlwyd yn y 13g). Mae'n ganolfan i'r fasnach mewn gwinoedd Alsace ers canrifoedd.