Cofrestr o Barciau a Gerddi yng Nghymru sydd o Ddiddordeb Hanesyddol ArbennigMath o gyfrwng | cofrestr diwylliannol |
---|
Prif bwnc | parciau a gerddi rhestredig |
---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
---|
Cofrestr treftadaeth a gynhelir gan Cadw yw'r Gofrestr o Barciau a Gerddi yng Nghymru sydd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig. Daeth y i rym ar 1 Chwefror 2022 yn sgil pasio Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 [1]
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gydnabod y dylai parciau a gerddi hanesyddol gael eu diogelu yn yr un ffordd ag adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig. Roedd y gofrestr yn ganlyniad sawl blwyddyn o gydweithio rhwng cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ddiweddaru’r cofnodion ar gyfer y 400 o safleoedd ar hyd a lled y wlad.[2]
Mae’r gofrestr yn cynnwys tua 400 o safleoedd o wahanol fathau, gan gynnwys gerddi tai preifat, mynwentydd a pharciau cyhoeddus. Mae parciau a gerddi wedi'u rhestru ar un o dair gradd, sy'n cyfateb i'r system raddio a ddefnyddir ar gyfer adeiladau rhestredig. Gradd I yw'r radd uchaf, ar gyfer safleoedd o ddiddordeb eithriadol; mae Gradd II* yn dynodi safleoedd o ansawdd gwych; ac mae Gradd II ar gyfer safleoedd o ddiddordeb arbennig.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol