Addurn i'w wisgo yn y glust ydy clustdlws. Hyd at yr 20g arferid ei wneud wneud allan o fetel a oedd yn hongian ar waelod y glust (y clustenni). Merched neu for
| Math | gem, addurn a wisgir wrth glust |
|---|---|
| Deunydd | glain |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01r546 |
| Thesawrws y BNCF | 39112 |
| Quora | Earrings |
Addurn i'w wisgo yn y glust ydy clustdlws. Hyd at yr 20g arferid ei wneud wneud allan o fetel a oedd yn hongian ar waelod y glust (y clustenni). Merched neu forwyr oedd fel arfer yn eu gwisgo, ond mae'r ddau ryw yn gwneud hynny erbyn heddiw, ar y naill glust neu'r llall.
Mae lleoliad y clustdlws yn amrywio. Gall dyllu rhan uchaf y glust, fel arfer, gymryd mwy o amser i wella.[1]
Erbyn heddiw cant eu gwneud o fetal, gwydr, glain, plastig a hyd yn oed platiau enfawr.
Does dim cofnod fod y Celtiaid na'r Llychlynwyr yn gwisgo clustdlysau. Yn Persepolis, Persia mae na luniau ar waliau o filwyr yr Ymerodraeth yn eu gwisgo.
Mae'r Beibl hefyd yn eu crybwyll sawl tro e.e. sonir am gaethwas nad oedd yn dymuno rhyddid oddi wrth ei feistr ac y byddai ei feistr yn rhoi clustdlws drwy ei glust er mwyn dangos fod y caethwas yn eiddo iddo fo am byth (Exodus 21:6).
Dywed yr archaeolegydd Howard Carter fod clustiau Tutankhamun yn dangos ôl tyllu, ond ni chafwyd hyd i glustdlysau yn y gist; roedd rhai mewn rhan arall o'r bedd, fodd bynnag. Roedd tyllau hefyd yn masg-wyneb Tutankhamun, ond roeddynt wedi eu cau gyda disgen aur ym mhob un. Efallai fod hyn yn arwydd mai plant yn unig oedd yn eu gwisgo.[2]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.