Cliftonville F.C.

Cliftonville
Enw llawnCliftonville Football & Athletic Club
LlysenwauThe Reds
SefydlwydMedi 1879; 145 blynedd yn ôl (1879-09)
MaesSolitude
(sy'n dal: 3,200)
CadeiryddGerard Lawlor
RheolwrPaddy McLaughlin
CynghrairNIFL Premiership
2023-243.
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Mae Cliftonville Football and Athletau Club, a adwaenir yn well fel Cliftonville F.C., yn un o brif glybiau pêl-droed Gogledd Iwerddon ac wedi ei lleoli yn ninas Belfast. Fe'i sefydlwyd yn 1879, dyma'r clwb hynaf yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r sylfaen wedi'i chysylltu'n gryf ag entrepreneur ifanc o Belfast, John McAlery. Mae cefnogwyr y tîm yn dod o'r gymuned dosbarth gweithiol a Chatholig, genedlaetholaidd Belfast.

Hanes

Cyhoeddwyd sefydlu Cliftonville ar 20 Medi 1879 yng nghologn hysbysiadau ym mhapur yr Belfast News-Letter a'r Northern Whig, a alwodd i "gentlemen desirous of becoming members" of the "Cliftonville Association Football Club (Scottish Association Rules)" i gysylltu gyda J.M. McAlery, dyn busnes ifanc o Belfast a rheolwr yr "Irish Tweed House", Royal Avenue ac, yn ddiweddarach drwy eiddo yn Rosemary Street, neu drwy law RM Kennedy, a hysbysebodd "opening practice today at 3.30".[1][2]

Wedi dim ond wythnos wedi i'r hysbyseb gael ei chyhoeddi, chwaraeodd Cliftonville ei gêm gyntaf a recordiwyd ar Faes Criced Cliftonville yn erbyn detholiad o chwaraewyr rygbi o'r enw Quidnunces ar 29 Medi 1879 gan golli 2-1. Yn ei gêm gyntaf yn erbyn yr Scottish Caledonian Caledonian, roedd y sgôr yn waeth gan golli 1-9. [1]

Bu John McAlery yn brysur eto yn 1880 wrth iddo ffurfio Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon. Rhoddodd wahoddiad i bartïon â diddordeb ym Melfast ac ardal i alw cyfarfod. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 18 Tachwedd 1880 yng Ngwesty'r Queen's, Belfast, dan arweiniad John Sinclair, a ffurfiwyd Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon. Tra penodwyd Major Chichester yn llywydd, daeth McAlery yn ysgrifennydd anrhydeddus y gymdeithas. Roedd y cyfarfod hwn hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer Cwpan Iwerddon.

Stadiwm

Maes cartref Cliftonville yw stadiwm Solitude, sy'n dal torf o 3,700. Mae'r clwb wedi chwarae yno ers 1890. Mae'r clwb wedi wedi ennill 5 pencampwriaeth genedlaethol, 8 Cwpan Iwerddon a 4 Cwpan Cynghrair Gogledd Iwerddon.

Prif Wrthwynebwyr

Map Belffast yn dangos lleoliad clybiau Cliftonville a'r Crusaders

Cliftonville yw tîm Catholig Belfast, mae gan ei gefnogwyr berthynas gystadleuol ffyrnig tuag at y ddau dîm a gefnogir gan y gymuned Brotestannaidd, Linfield a'r Glentoran. Gelwir eu cefnogwyr mwyaf pybur yn "Red Army". Yn ystod yr 1970au a'r yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon, roedd trais rhwng cefnogwyr Cliftoville a chefnogwyr Glentoran yn gyffredin.

Ceir gemau darbi cliftonville yn erbyn tîm arall gogledd Belfast, sef Crusaders F.C. dyma'r "North Belfast Derby".

Ynghyd â Linfield a Glentoran, dydy Cliftonville erioed wedi cwympo i adrannu is.

Ar 27 Mehefin 2019 chwaraeodd Cliftonville yn erbyn y Barri.

Anrhydeddau

  • Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon (gan gynnwys yr hen "Irish League" oedd, tan yr 1920au yn cynnwys De Iwerddon: 5 (gan gynnwys un wedi ei rannu)
    • 1905–06 (rhannu gyda Distillery), 1909–10, 1997–98, 2012–13, 2013–14
  • Cwpan Iwerddon (oedd yn cynnwys holl dimau Iwerddon nes yr 1920 ac sy'n dal i arddel yr enw wreiddiol genedlaethol): 8
    • 1882–83, 1887–88, 1896–97, 1899–00, 1900–01, 1906–07, 1908–09, 1978–79
  • Cwpan Cynghrair Gogledd Iwerddon: 5
    • 2003–04, 2012–13, 2013–14, 2014–15, 2015–16

Cliftonville yn Ewrop

Ers 1979 mae Cliftonville wedi chwarae mewn amrywiaeth o gystadlaethau Ewropeaidd:

1998/99, 2013/14, 2014/15
2010/11, 2011/12, 2012/13, 2016/17, 2018/19, 2019/20
  • Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop /Europacup II
1979/80
2008/09
1996, 2001, 2007

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Malcolm Brodie, "100 Years of Irish Football", Blackstaff Press, Belfast (1980)
  2. Northern Whig, 20 September 1879

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!