Clamydia

Haint bacteriol yw Clamydia a achchosir gan y bacteriwm Clamydia trachomatis. Mae'n haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI). Gellir ei ddal drwy ryw gweiniol, rhe

Clamydia
Clamydia
Enghraifft o:math o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcommensal bacterial infectious disease, commensal Chlamydiaceae infectious disease, haint a drosglwyddir yn rhywiol Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolAfiechydon heintiol edit this on wikidata
AchosChlamydia trachomatis d/uw-3/cx edit this on wikidata
Dynodwyr
Thesawrws NCIC34463 edit this on wikidata
Freebase/M/020gd edit this on wikidata
MeSHD002690 edit this on wikidata
UMLS CUIC0008149 edit this on wikidata
QuoraChlamydia-infection edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Haint bacteriol yw Clamydia a achchosir gan y bacteriwm Clamydia trachomatis. Mae'n haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI). Gellir ei ddal drwy ryw gweiniol, rhefrol neu eneuol diamddiffyn. Mae amlder clamydia wedi cynyddu fesul tipyn ers y 1990au ac erbyn 2017 dyma oedd yr STI mwyaf cyffredin. Mae gan un fenyw o bob 10 dan 25 oed sy'n weithredol yn rhywiol siawns o gael clamydia. Gwrywod rhwng 20 a 30 oed yw'r rhai sydd â’r risg fwyaf.[1]

Symptomau

Nid oes gan tua 50% o ddynion heintiedig a 70% o fenywod heintiedig unrhyw symptomau, felly gall gael ei drosglwyddo heb i'r unigolyn heintiedig sylweddoli - fel rheol ni chaiff yr achosion hyn eu diagnosio. Mae diagnosis yn digwydd pan fydd symptomau'n ymddangos.

Gellir trin clamydia anghymleth yn hawdd gyda gwrthfiotigau. Dylai partneriaid rhywiol diweddar unigolyn heintiedig gael profion er mwyn atal ail-heintio ac ymlediad y clefyd.

Menywod

  • llid y bledren
  • newid yn eu rhedlif gweiniol, a
  • phoen ysgafn yn rhan isaf yr abdomen.

Gall clamydia heb ei drin gael nifer o effeithiau difrifol. Gall menywod ddatblygu clefyd llidiol y pelfis (PID) a all achosi anffrwythlondeb, risg uwch o feichiogrwydd ectopig ac erthyliad naturiol, poen yn ystod cyfathrach rywiol a gwaedu rhwng y mislif.

Gall menyw feichiog heintiedig drosglwyddo'r bacteria i'w baban yn ystod genedigaeth gan wneud i'r baban gael ei eni gyda llid y gyfbilen neu lid yr ysgyfaint.

Dynion

  • rhedlif o agoriad y pidyn
  • cosi poenus ar flaen y pidyn

Mewn dynion mae cymhlethdodau'n fwy prin ond gallant achosi -

  • Epididymitis, llid y tiwb sy'n mynd o'r ceilliau i'r pidyn. Mae hyn yn achosi poen a chwydd o gwmpas y ceilliau.
  • Syndrom Reiter (arthritis) sy'n effeithio ar y llygaid a'r cymalau.
  • Ffrwythlondeb diffygiol.
  • Llid yr wrethra, y tiwb sy'n mynd o'r bledren i flaen y pidyn, gan achosi wrethritis.

Diagnosis

Menywod

  • Prawf troeth.
  • Swab o'r wain isaf.

Dynion

  • Prawf troeth
  • Swab o agoriad yr wrethra ar flaen y pidyn (mwy dibynadwy na'r prawf troeth).

Cyfeiriadau

  1. "2014 Sexually Transmitted Diseases Surveillance Chlamydia". 17 Tachwedd 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mehefin 2016. Cyrchwyd 10 Mehefin 2016.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.