Tri o'r morwyr Prydeinig ar Rwydwaith Newyddion Al-Alam
Dechreuodd yr anghydfod am gipio aelodau o'r Llynges Frenhinol gan Iran, 2007 ar 23 Mawrth 2007 pan gafodd bymtheg o bersonél y Llynges Frenhinol , o HMS Cornwall , eu hamgylchynu a'u cipio gan Lynges Corfflu y Gwarchodlu Chwyldroadol ger arfordir Irac -Iran . Bu'r criw o wyth morwr a saith môr-filwr o ddau gwch gwynt anhyblyg yn chwilio llong fasnachol pan cafon nhw eu caethiwo am 10:30 amser lleol Irac (07:30 GMT , 11:00 amser lleol Iran) gan chwe chwch Llynges Corfflu y Gwarchodlu Chwyldroadol. Wedyn cafon nhw eu cymryd i ganolfan Corfflu y Gwarchodlu Chwyldroadol yn Nhehran i gael eu holi.[ 1] [ 2]
Yn dilyn hyn bu ymdrechion diplomyddol dwys i sicrhau rhyddhad y personél. Ar 28 Mawrth dangosodd sianeli teledu ar draws y byd deunydd fideo a ddarparwyd gan yr awdurdodau Iranaidd yn dangos rhai o'r 15 morwr Prydeinig, gan gynnwys datganiad gan Faye Turney a llythyr a honnir ei ysgrifennwyd ganddi, yn ymddiheurio am dresmasiad y Deyrnas Unedig yn nyfroedd Iran.[ 3] Ar 30 Mawrth dangoswyd tri aelod o'r criw ar deledu yn Iran a ryddhawyd dau lythyr arall a honnir ei ysgrifennwyd gan Turney, eto yn cyfaddef roedd y cwch Prydeinig yn nyfroedd Iranaidd.[ 4]
Dywed llywodraeth Prydain bod y criw yn cynnal arolygiad cydymffurfiad ar long fasnach, dan rwymedigaeth Penderfyniad 1723 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig . Cododd y masnachwr drwgdybiaeth wrth hwylio ar hyd ddyfrffordd Shatt al-Arab . Roedd HMS Cornwall yn rhan o'r cyfraniad Prydeinig i luoedd y glymblaid a weithredir ymgyrchoedd diogelwch arforol yn dilyn Rhyfel Irac .[ 5]
Ar 4 Ebrill , cyhoeddodd Arlywydd Iran Mahmoud Ahmadinejad , er yn ailadrodd yr haeriad y cafodd dyfroedd Iran eu goresgyn, y byddai'r morwyr yn cael eu rhyddhau fel "rhodd" i Brydain.[ 6] Pan daethant yn ôl i'r DU dywedodd y criw cawsant eu rhoi o dan "bwysau seicolegol cyson" gan awdurdodau Iran.[ 7]
Datganodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ar 7 Ebrill dechreuad "ymchwiliad manwl" i'r amgylchiadau ag arweiniodd at gipiad y criw o 15 gan Iran.[ 8] Cafodd yr ymchwiliad ei arwain gan yr Is-gadfridog Syr Robert Fulton , Llywodraethwr Gibraltar (a chyn-Comander Cyffredinol y Môr-filwyr Brenhinol ).[ 9]
Y personél Prydeinig
Y canlynol oedd y 15 o aelodau'r Llynges a Môr-filwyr Brenhinol a gipiwyd ar 23 Mawrth 2007:[ 4] [ 10] [ 11] [ 12] [ 13] [ 14]
Is-gapten Felix Carman RN
Capten Christopher Air RM
Prif Is-swyddog Gavin Cavendish
Sarsiant Actio Dean Harris
Pen-llongwr Christopher Coe
Pen-llongwr Dros Dro Faye Turney
Is-gorporal Mark Banks
Llongwr Abl Arthur Batchelor
Llongwr Abl Andrew Henderson
Llongwr Abl Simon Massey
Llongwr Abl Nathan Summers
Môr-filwr Paul Barton
Môr-filwr Daniel Masterton
Môr-filwr Adam Sperry
Môr-filwr Joe Tindell
Cyfeiriadau
↑ (Saesneg) "UK sailors captured at gunpoint ", BBC , 26 Mawrth , 2007 .
↑ (Saesneg) "Diplomats meet over Iranian seizure of British sailors ", CNN , 23 Mawrth , 2007 .
↑ (Saesneg) "Iran shows held sailors on television ", Reuters , 28 Mawrth , 2007 .
↑ 4.0 4.1 (Saesneg) "Iran airs second sailor 'apology' ", BBC , 30 Mawrth , 2007 .
↑ (Saesneg) "Iraq urges Iran to free sailors ", BBC .
↑ "Teuluoedd morwyr 'wrth eu bodd' ", BBC , 4 Ebrill , 2007 .
↑ (Saesneg) "Royal Navy captives: Key quotes ", BBC , 6 Ebrill , 2007 .
↑ (Saesneg) "Sailors reunited – inquiry starts ", Yorkshire Evening Post , 6 Ebrill , 2007 .
↑ (Saesneg) "Gibraltar Governor heads Royal Marine inquiry ", gibfocus.gi , 16 Ebrill , 2007 .
↑ (Saesneg) "Captured UK officers shown on TV ", BBC , 1 Ebrill , 2007 .
↑ (Saesneg) "More seized navy personnel named ", The Guardian , 2 Ebrill , 2007 .
↑ (Saesneg) "Profile: Captured UK personnel ", BBC , 3 Ebrill , 2007 .
↑ (Saesneg) "Named: the captured personnel ", The Guardian , 4 Ebrill , 2007 .
↑ (Saesneg) "Named: 15 UK personnel return safely to UK from Iran ", Y Llynges Frenhinol , Y Gweinyddiaeth Amddiffyn , 5 Ebrill , 2007 .