De Oratore, De re publica, De legibus, De Officiis, De Inventione, Catiline Orations, Philippicae, In Verrem, Pro Archia Poeta, Paradoxa Stoicorum, Hortensius, De finibus bonorum, Tusculanae Disputationes, Cato Maior de Senectute, Laelius de Amicitia, De Natura Deorum, De Divinatione, De fato, Orator ad Brutum, Topica
Mudiad
Academic skepticism
Tad
Marcus Tullius Cicero
Mam
Helvia
Priod
Terentia, Publilia
Plant
Cicero Minor, Tullia
Llinach
Tullii Cicerones
Gwobr/au
Pater Patriae
Gwleidydd, cyfreithiwr, athronydd ac awdur Rhufeinig oedd Marcus Tullius Cicero (3 Ionawr106 CC – 7 Rhagfyr43 CC).
Ganed Cicero yn Arpinum (Arpino heddiw), tua 100 km i'r de o Rufain. Roedd yn deulu yn uchelwyr lleol, gyda chysylltiad pell ag un arall o enwogion Arpinum, Gaius Marius,ond heb gysylltiad a'r teuluoedd seneddol. Bu'n astudio'r gyfraith dan Quintus Mucius Scaevola, a dywed Plutarch ei fod yn fyfyriwr eithriadol o alluog. Dechreuodd ei yrfa fel cyfreithiwr tua 83-81 CC; ei achos llys pwysig cyntaf oedd amddiffyn Sextus Roscius ar gyhuddiad o lofruddio ei dad. Ymhlith y bobl a gyhuddwyd gan Cicero fel y gwir lofruddion roedd Chrysogonus, ffefryn Lucius Cornelius Sulla oedd yn feistr Rhufain ar y pryd.
Yn 79 CC, aeth Cicero i Wlad Groeg, Asia Leiaf a Rhodos, a threuliodd amser yn astudio rhethreg dan Molon o Rhodos. Wedi dychwelyd i Rufain, fe'i hetholwyd yn quaestor yn 75 CC, gan wasanaethu yn Sicilia. Gofynnodd y Siciliaid iddo eu cynrychioli i erlyn Gaius Verres, llywodraethwr Sicilia oedd wedi ymgyfoethogi ar draul y wlad. Bu'r achos yn erbyn Verres yn 70 CC yn llwyddiant mawr i Cicero, a daeth yn enwog yn Rhufain.
Etholwyd ef yn gonswl yn 63 CC. Yn ystod ei gyfnod fel conswl, llwyddodd i ddatgelu cynllwyn gan gefnogwyr Lucius Sergius Catilina yn erbyn y wladwriaeth. Ffôdd Catilina pan draddododd Cicero araith yn ei erbyn yn y Senedd, a dienyddiwyd nifer o'i ganlynwyr.
Yn 61 CC gwahoddodd Iŵl Cesar ef i fod yn bedwerydd yn ei bartneriaeth gyda Gnaeus Pompeius Magnus a Marcus Licinius Crassus, ond gwrthododd Cicero. Yn 58 CC cyhoeddodd Publius Clodius Pulcher, tribwn y bobl, ddeddf yn alltudio unrhyw un oedd wedi dienyddio dinasyddion Rhufeinig heb eu rhoi ar brawf. Roedd Cicero wedi gwneud hyn adeg cynllwyn Catilina, a bu raid iddo adael am Wlad Groeg. Dychwelodd i Rufain yn 57 CC.
Amddiffynnodd Cicero Milo ar gyhuddiad o lofruddio, ac ystyrir ei araith Pro Milone yn un o'i gampweithiau. Er hynny, alltudiwyd Milo. Erbyn 50 CC roedd y berthynas rhwng Cesar a Pompeius wedi dirywio, a rhoddodd Cicero ei gefnogaeth i Pompeius. Yn y cyfnod wedi llofruddiaeth Cesar yn 44 CC, cyhoeddodd gyfres o ymosodiadau ar Marcus Antonius, y Philippicau.
Pan ddaeth Antonius ac Octavianus i gytundeb i rannu grym, cyhoddwyd enw Cicero ar restr o elynion. Daliwyd ef wrth iddo adael ei fila yn Formiae ar ei ffordd tua'r porthladd i geisio dianc, a lladdwyd ef.