Chebba

Tref yn nhalaith Mahdia, Tiwnisia yw Chebba. Mae'n gorwedd ar lan Môr y Canoldir tua 30 km i'r de o ddinas Mahdia a thua 80 km i'r gogledd o Sfax. Ro

Chebba
Chebba
Mathbwrdeistref Tiwnisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth24,515 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau35.2372°N 11.115°E Edit this on Wikidata
Cod post5170 Edit this on Wikidata
Map

Tref yn nhalaith Mahdia, Tiwnisia yw Chebba. Mae'n gorwedd ar lan Môr y Canoldir tua 30 km i'r de o ddinas Mahdia a thua 80 km i'r gogledd o Sfax. Roedd 19,883 o bobl yn byw yno yn 2004.[1]

Hanes

Brithlun Rhufeinig o Chebba yn dangos y duw Neifion a'r Pedwar Tymor.

Ger La Chebba, ar bentir Ras Kaboudia, ceir adfeilion ribat (caer neu gastell) Bordj Kjadidja, a adeiladwyd ar sylfeini o gyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd. Roedd yn rhan o gadwyn o gaerau a godwyd gan yr Abbasiaid ar hyd arfordir Sahel Tiwnisia yn yr 8g OC. Codwyd y gaer Fysantaidd i amddiffyn tref hynafol Caput Vada; glaniodd y cadfridog Bysantaidd Belisarius yno yn 533 OC ar gychwyn ei ymgyrch llwyddiannus yn erbyn y Fandaliaid. Ailenwyd y dref yn Justinianopolis gan y Bysantiaid.

Ceir brithluniau (mosaics) Rhufeinig o Caput Vada yn Amgueddfa'r Bardo yn Nhiwnis.

Bu protestiadau yn erbyn llywodraeth Zine Ben Ali yn Chebba yn ystod intifada Tiwnisia.[2]

Cyfeiriadau

  1. "Cyfrifiad 2004". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Medi 2015. Cyrchwyd 4 Ionawr 2011.
  2. "A protester dies after being shot by police, as activists criticise government repression of protests", Al Jazeera, 31 Rhagfyr 2010
Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.