Roedd Charles Butt Stanton (7 Ebrill, 1873 – 6 Rhagfyr, 1946.) yn wleidydd Llafur Cymreig, yn Undebwr Llafur ac yn Aelod Seneddol dros etholaethau Bwrdeistref Merthyr ac Aberdâr, ac yn actor.[1]
Bywyd Personol
Ganwyd Stanton yn Aberaman ym 1873, yn fab i Thomas a Harriet Stanton a chafodd ei addysgu yn Ysgol Brydeinig Aberaman.
Priododd Alice Maud Thomas ym 1893. Bu iddynt ddau fab, a lladdwyd un, Clifford yn y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1917.[2]
Gyrfa
Ar ôl ymadael a'r ysgol aeth Stanton i weithio fel gwas bach mewn tŷ bonedd ym Mhen y bont ar Ogwr, ond dychwelodd yn ddiweddarach i Aberaman i weithio mewn glofa. Yn fuan iawn yn ei yrfa daeth yn amlwg fel gweithiwr milwriaethus.
Ym 1893 wrth gefnogi streic gan lowyr tan ddaear yn Aberaman fe'i cyhuddwyd o saethu dryll at heddwas a chafodd ei garcharu am 6 mis am fod a gwn heb drwydded yn ei feddiant [3] Bu yn chwarae rhan yn streic y glowyr 1898. Ar ôl i'r streic fethu aeth i weithio ar ddociau Llundain lle bu yn rhan o streic y docwyr ym 1898.
Ym 1899 dychwelodd i Gymru a chael ei ethol yn asiant Ffederasiwn y Glowyr yn Aberdâr.
Gyrfa Gwleidyddol
Roedd Stanton yn cyfrif ei hun yn Sosialydd Chwyldroadol ac yn gefnogol i'r rhyfel dosbarth. Ym 1890 daeth yn ysgrifennydd Cymdeithas Sosialaidd Aberdâr ac roedd yn aelod gweithgar o'r Blaid Lafur Annibynnol (ILP). Ym 1903 cafodd ei ethol yn aelod o Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr gan ddal gafael ar ei sedd ar y cyngor hyd 1908.
Yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 1910 fe'i dewiswyd yn ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth Dwyrain Morgannwg. Penderfynodd Ffederasiwn y Glowyr i beidio cefnogi ei ymgeisyddiaeth gan roi eu cefnogaeth i'r Undebwr Llafur amlwg Allen Clement Edwards yr ymgeisydd Rhyddfrydol. Edwards fu'r ymgeisydd llwyddiannus
Ar doriad y Rhyfel Byd Cyntaf daeth Stanton yn gefnogwr brwd i achos y rhyfel; ac yn feirniad llafar iawn yn erbyn Sosialwyr megis Keir Hardy arweinydd y Blaid Lafur a oedd yn mynegi amheuon am gyfiawnder y rhyfel. Roedd hefyd yn groch yn erbyn unrhyw aelod o'r Blaid Lafur oedd yn coleddu achos heddychiaeth.
Ym 1915 bu farw Keir Hardy, un o'r Aelodau Seneddol dros Bwrdeistref Merthyr, a chynhaliwyd is-etholiad. Dewisodd y Blaid Lafur James Winstone i sefyll fel eu hymgeisydd swyddogol; penderfynodd Stanton i'w herio fel ymgeisydd Llafur annibynnol. Sail ymgyrch Stanton oedd ei gefnogaeth i'r rhyfel a'i honiad bod Winstone yn llugoer i'r rhyfel, yn anwlatgarol, ac yn fradwrus (cyhuddiad gwbl ddi-sail). O achos y cytundeb rhwng y pleidiau eraill i beidio herio ei gilydd yn ystod cyfnod y rhyfel doedd dim ymgeiswyr gan y Rhyddfrydwyr na'r Ceidwadwyr er bod nifer o Ryddfrydwyr blaenllaw wedi mynegi eu cefnogaeth i Stanton. Enillodd Stanton y sedd gyda mwyafrif mawr.
Diddymwyd etholaeth Bwrdeistref Merthyr ar gyfer etholiad cyffredinol 1918 a safodd Stanton yn enw Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur; plaid sosialaidd oedd yn cefnogi'r Rhyfel ac am i Lywodraeth y Glymblaid parhau hyd derfyn y trefniadau heddwch, yn groes i benderfyniad y Blaid Lafur swyddogol i dynnu allan o'r glymblaid. Enillodd Stanton y sedd yn gyffyrddus yn erbyn yr ymgeisydd Llafur a'r Heddychwr Niclas y Glais.
Yn etholiad 1922 ceisiodd Stanton amddiffyn sedd Aberdâr fel ymgeisydd Rhyddfrydol Cenedlaethol gan cael ei drechu gan George Henry Hall yr ymgeisydd Llafur.
Bywyd diweddarach
Ar ôl colli ei sedd yn Aberdâr daeth gyrfa wleidyddol Stanton i ben. Prynodd dŷ tafarn yn Llundain. Yn ogystal â rhedeg ei dafarn bu Stanton hefyd yn chwarae'r fiolín fel cerddor lled broffesiynol a gan chwarae rhannau bach fel actor mewn ffilmiau.[4]
Bu farw ym 1946 a chafodd ei gorff ei losgi yn amlosgfa Golders Green.
Cyfeiriadau