Charles McLaren, Barwn 1af Aberconwy |
---|
|
Ganwyd | 12 Mai 1850 Caeredin |
---|
Bu farw | 23 Ionawr 1934 Llundain |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
---|
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig |
---|
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
---|
Tad | Duncan McLaren |
---|
Mam | Priscilla Bright Mclaren |
---|
Priod | Laura Elizabeth McLaren |
---|
Plant | Henry Duncan McLaren, Florence Norman, Elsie Dorothea McLaren, Francis McLaren |
---|
Roedd Charles Benjamin Bright McLaren, Barwn 1af Aberconwy PC QC YH (12 Mai, 1850 - 23 Ionawr, 1934), yn newyddiadurwr ac yn gyfreithiwr o'r Alban ac yn wleidydd Rhyddfrydol. Roedd, hefyd yn dirfeddiannwr ac yn ddiwydiannwr[1].
Cefndir
Ganwyd McLaren yng Nghaeredin, yn fab i'r gwleidydd Duncan McLaren a'i thrydedd wraig Priscila, merch i Jacob Bright a chwaer y gwladweinydd Rhyddfrydol John Bright.
Derbyniodd McLaren ei addysg ym Mhrifysgolion Heidelberg a Bonn, gan raddio o Brifysgol Caeredin gydag anrhydedd dosbarth gyntaf a gradd Meistr y Celfyddydau.
Teulu
Priododd Laura Elizabeth Pochin yn Westminster ar 6 Mawrth 1877; roedd hi'n ferch i'r cemegydd Henry Davis Pochin a chawsant bedwar o blant. Bu'r teulu'n gyfeillion i James McNeill Whistler, ac roeddeent yn berchen sawl un o'i weithiau.[2]
Cyfeiriadau