Yn ôl Atlas, hyfforddodd ei gorff gan ei newid o fod yn "scrawny weakling" i fod yn corffluniwr mwyaf llwyddiannus ei oes. Dechreuodd ddefnyddio'r ffugenw "Charles Atlas" ar ôl i'w ffrind ddweud wrtho ei fod yn debyg i'r cerflun o Atlas ar ben gwesty yn Coney Island[1] a newidiodd ei enw'n swyddogol yn 1922. Sefydlwyd ei gwmni, Charles Atlas Ltd., ym 1929. Bu farw yn Long Beach, Efrog Newydd. Yn 2010, roedd ei raglen hyfforddi yn parhau i fod ar y farchnad. Bellach perchennog y cwmni yw Jeffrey C. Hogue.
Cyfeiriadau
↑ 1.01.1Marwgoffa New York Times (24 Rhagfyr, 1972).