Ceolwulf o Wessex |
---|
Ganwyd | 6 g |
---|
Bu farw | 611 |
---|
Dinasyddiaeth | Wessex |
---|
Galwedigaeth | gwron |
---|
Swydd | brenin Wessex |
---|
Tad | Cutha of Wessex |
---|
Mam | unnamed wife of Cutha of Wessex |
---|
Plant | Cuthgils, Cynegils |
---|
Llinach | Teyrnas Wessex |
---|
Daeth Ceolwulf, o linach brenhinol Wessex, yn Frenin Wessex yn 597.
Bywyd
Fe ddaeth Ceolwulf yn Frenin Wessex yn 597 ar farwolaeth ei frawd Ceol. Ar y pryd yr oedd mab Ceol, Cynegils, yn rhy ifanc i deyrnasu. ar farwolaeth ei frawd Ceol. Ar y pryd yr oedd mab Ceol, Cynegils, yn rhy ifanc i deyrnasu.
Teyrnasodd Ceolwulf am bedwar ar ddeg o flynyddoedd. Ni cheir dim am hanes Wessex yn ystod ei deyrnasiad yn y croniclau Seisnig.
Fodd bynnag, yn ôl hanesyn a geir yn Llyfr Llandaf (12g), arweiniodd Ceolwulf fyddin o Sacsoniaid i ymosod ar Went. Dywedir i hynny ddigwydd ar ddiwedd oes Tewdrig, brenin Gwent (tua 580-630), ar ôl iddo ymddeol yn ei henaint a throsglwyddo'r orsedd i'w fab Meurig. Croesodd y Sacsoniaid Afon Hafren dan arweiniad Ceolwulf tua'r flwyddyn 630, gan anrheithio nifer o glasau ac eglwysi. Daeth Tewdrig allan o'i ymddeoliad i gynorthwyo ei fab ac amddiffyn yr eglwys yn erbyn y "paganiaid" Seisnig. Gorchfygodd Tewdrig a Meurig y Sacsoniaid ym mrwydr Pont y Saeson, ger Tyndyrn, ond clwyfwyd Tewdrig yn angheuol. Ond gan fod Ceolwulf wedi peidio teyrnasu yn 611, mae'r dyddiad yn rhy hwyr o ugain mlynedd.[1]
Bu farw Ceolwulf heb blant cofnodedig; trosglwyddwyd yr orsedd i Cynegils.
Cyfeiriadau
- ↑ Wendy Davies, The Llandaff Charters (Aberystwyth, 1979).