Canton of Cayenne Centre, Canton of Cayenne Nord-Est, Canton of Cayenne Nord-Ouest, Canton of Cayenne Sud, Canton of Cayenne Sud-Est, Canton of Cayenne Sud-Ouest, Guyane, arrondissement of Cayenne
Yn ôl cyfrifiad, roedd yna 66,149 o bobl yn byw yn ardal drefol Cayenne, gyda 50,594 ohonynt yn byw yn ninas (commune) Cayenne ei hun, a'r gweddill yn commune gyfagos Remire-Montjoly. Mae communeMatoury (poblogaeth 18,032 yn 1999), lle ceir Maes Awyr Cayenne-Rochambeau, yn un o faesdrefi Cayenne hefyd. Yn cynnwys Matoury, roedd gan yr ardal drefol gyfan boblogaeth o 84,181 yn 1999. Erbyn 2008 mae'n bosibl fod y ffigwr yn agosach i 100,000 neu ragor, gyda nifer o fewnfudwyr o Frasil a'r Caribi yn tyrru yno i gael gwaith.