Yn wreiddiol, roedd Castell Penrhyn yn faenordycanoloesol caerog, a sefydlwyd gan Ednyfed Fychan yn hanner cyntaf y 13g. Yn 1438, cafodd Ioan ap Gruffudd drwydded i'w droi'n amddiffynfa gaerog (trwydded crenellate) a chodwyd cadarnle a gorthwr yno. Ail-adeiladodd Samuel Wyatt yr adeilad yn y 1780au.
Adeiladwyd y castell presennol rhwng 1820 a 1845 i gynlluniau Thomas Hopper, a ymestynnodd a thrawsnewidiodd yr adeilad yn llwyr. Er hyn, mae grisiau troellog o'r adeilad gwreiddiol yn dal i'w gweld yn y seler bwaog a chynhwyswyd hen waith maen yn y strwythur newydd. Mae o'n un o'r ffug gestyll y 19g a edmygir fwyaf; galwodd Christopher Hussey hi'n, "the outstanding instance of Norman revival."[3] Mae'r castell yn gyfansoddiad darluniadol sy'n ymestyn dros 600 troedfedd sgwâr sy'n cynnwys ystafelloedd teuluol, ac yn y prif floc a adeiladwyd o amgylch yr adeilad gwreiddiol mae stablau ac adain gwasanaeth.
Dyluniodd Hopper yr holl addurniadau mewnol cyntaf mewn steil cyfoethog ond cynnil Normanaidd, gyda llawr o waith plastr a cherfio pren a charreg manwl. Mae gan y castell hefyd ychydig o ddodrefn a ddyluniwyd yn arbennig yn y steil Normanaidd, gan gynnwys gwely o lechi yn pwyso tunnell a ddefnyddiwyd gan y Frenhines Victoria pan ymwelodd hi â'r castell yn 1859 ar un o'i hymweliadau prin â Chymru.
Cleientiaid Hopper oedd y teulu Pennant, a oedd wedi ennill eu cyfoeth drwy siwgr Jamaica a chwareli llechi lleol. Ym 1805, roedd Richard Pennant yn berchen ar 5,000 o gaethweision, ar adeg pan oedd 10 ac 20% o gaethweision a gludwyd o Affrica i Jamaica yn marw ar y daith[1]. Roedd yn ffigwr amlwg o blaid cynnal caethwasiaeth. Tua'r un adeg y cwblhawyd Castell Penrhyn, gwaharddwyd caethwasiaeth a rhyddhawyd 764 o gaethweision y Penantiaid, ond fe'u gwobrwywyd â iawndal o £15,000 (sy'n cyfateb i £1.3 miliwn ar ddechrau'r 21ain ganrif) gan y Llywodraeth[1]. Ni dderbyniodd y caethweision unrhyw iawndal, ac roedd Llywodraeth Prydain yn defnyddio trethi er mwyn ad-dalu'r ddyled a achoswyd gan yr iawndaliadau hael hyd at 2015[4].
Oherwydd ecsbloetio gweithwyr a'r dioddefaint yn ystod Streic Fawr y Penrhyn ym 1900-1903, mae nifer o bobl ardal Bethesda yn gwrthod ymweld â'r Castell.[2]
Yn 1951 derbyniwyd y castell a 40,000 acer (160 km²) o dir gan y Trysorlys yn lle treth etifeddiaeth. Erbyn heddiw mae'n perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae ar agor i'r cyhoedd. Mae atyniadau Penrhyn yn cynnwys gerddi ffurfiol o fewn waliau, gerddi anffurfiol estynedig, amgueddfa ddolïau, Amgueddfa Rheilffordd Castell Penrhyn (amgueddfa rheilffordd fodel), a maes chwarae antur. Ceir golygfeydd o fynyddoedd Eryri oddi yno.
23ain Awst 1940 - ”Mynd i'r Migneint i saethu Grouse hefo Lord Penrhyn. 6 dreif i ben y Gamell ac i Mynydd Tŷ Newydd. Dreif at Tŷ Cipar. Andros o ffrae rhwng y Pen Cipar, Mr Thomas, Plas Padog ar ciperiaid eraill. Lein y Beaters yn mynd yn igam ogam wrth groesi y corsydd ar Grouse yn dianc yn eu holau. Cael cinio ar lan Llyn Conwy a cook Lord Penrhyn yn dod a plateidiau blasus o Rabbit Pei sbar Lord Penrhyn ar byddygions eraill i ni i'w fwyta. Awel braf o'r Llyn”.[5]
”
Cost
Mae cost adeiladu'r 'castell' estynedig hwn yn ddadleuol. Amcangyfrifwyd iddo gostio tua £150,000 i'r teulu Pennant, sy'n cyfateb i tua £49,500,000 yn arian heddiw.