Castell Normanaidd wedi'i ddadfeilio yw Castell Gwyn a adnabyddir hefyd dan yr enw Castell Llandeilo, ac a leolir ger pentref Llandeilo Gresynni, Sir Fynwy.
Codwyd y castell hwn gan y Normaniaid er mwyn amddiffyn eu ffordd i mewn i dde Cymru - o'u pencadlys yn Henffordd - yn eu hymdrech i oresgyn Cymru. Mae'n fwy na phosib mai William fitz Osbern, iarll Henffordd a'i comisiynodd. Ceir dau gastell arall gerllaw, sy'n perthyn i'r un cyfnod: Castell y Grysmwnt a Chastell Ynysgynwraidd. Atgyfnerthwyd y cestyll hyn yn 1135, yn dilyn ymosodiadau gan y Cymry brodorol, a chrewyd Arglwyddiaeth y Tri Chastell.
Yn 1201 rhoddodd John, brenin Lloegr y castell i Hubert de Burgh. Newidiodd ddwylo yn ystod y degawdau dilynol, ac atgyfnerthwyd y castell yn y cyfnod hwn. Galwyd y castell gan yr hanesydd Paul Remfry yn esiampl wych o beirianneg milwrol. Yn 1267 trosglwyddwyd y castell i Edmund, iarll Lancaster a bu yn nwylo'r iarllaeth hyd at 1825.[1]
Erbyn y 16g roedd yn dechrau dadfeilio. Aeth i ofal Cadw ar 19 Tachwedd 1953 (cyfeirnod 2079).
Cyfeiriadau