Ffeminist a swffragét o'r Unol Daleithiau oedd Carrie Amelia Nation (enw bedydd: Carroline, weithiau: Carry[1]; 25 Tachwedd 1846 - 9 Mehefin 1911) sy'n
| Carrie Nation | |
|---|---|
| Ganwyd | Caroline Amelia Moore 25 Tachwedd 1846 Garrard County |
| Bu farw | 9 Mehefin 1911 Leavenworth |
| Man preswyl | Belton, Brazoria County, West Columbia, Richmond, Medicine Lodge, Guthrie, Oklahoma, Eureka Springs |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | agitator, ysgrifennwr |
Ffeminist a swffragét o'r Unol Daleithiau oedd Carrie Amelia Nation (enw bedydd: Carroline, weithiau: Carry[1]; 25 Tachwedd 1846 - 9 Mehefin 1911) sy'n nodigedig am fod yn aelod radical o'r mudiad dirwest. Gwrthwynebai alcohol cyn dyfodiad y Gwaharddiad syddogol. Mae'n cael ei chofio am ymosod ar sefydliadau sy'n gweini alcohol e.e. tafarndai, a hynny gyda bwyell bychan.[2]
Fe'i ganed yn Garrard County ar 25 Tachwedd 1846; bu farw yn Leavenworth, Kansas ac fe'i claddwyd yn Belton, Missouri. Roedd ei thad yn ffermwr Gwyddelig, yn fasnachwr stoc ac yn perchen caethweision. Yn ystod llawer o'i bywyd cynnar, roedd ei hiechyd yn wael ac roedd ei theulu'n dioddef o anawsterau ariannol. Symudodd y teulu sawl gwaith yn Kentucky ac yn y diwedd, yn 1854, ymsefydlodd yn Belton, Missouri. Cafodd ychydig o addysg anffurfiol.[3][4]
Poenai Nation am ddillad tynn menywod y cyfnod. Yn wir, gwrthododd wisgo staes ac anogodd fenywod i beidio â'u gwisgo oherwydd eu heffeith niweidiol ar organau hanfodol.[5][6]
Disgrifiodd hi ei hun fel "ci tarw yn rhedeg o gwmpas traed Iesu, yn cyfarth ar yr hyn nad yw Ef yn ei hoffi", a honnodd iddi dderbyn orchymyn dwyfol i hyrwyddo dirwest trwy ddinistrio bariau.

Yn 1865 cyfarfu Carrie â Charles Gloyd, meddyg ifanc a oedd wedi brwydro dros yr Undeb, a oedd yn alcoholig difrifol. Dysgodd Gloyd mewn ysgol a oedd yn agos at fferm y Moores, tra ei fod yn ceisio penderfynu ble i sefydlu ei ymarfer meddygol.[7] Yn y diwedd, ymsefydlodd yn Holden, Missouri, a gofynnodd i Nation ei briodi. Roedd rhieni Nation yn gwrthwynebu'r briodas oherwydd eu bod yn credu ei fod yn gaeth i alcohol, ond aeth y briodas ymlaen. Priodasant ar 21 Tachwedd, 1867, ac fe'u gwahanwyd yn fuan cyn genedigaeth eu merch, Charlien, ar 27 Medi 1868. Bu farw Gloyd yn 1869 o alcoholiaeth.[8]
Wedi'i ddylanwadu gan farwolaeth ei gŵr, datblygodd Nation agwedd negyddol eithafol yn erbyn alcohol. Gyda'r elw o werthu ei thir a etifeddwyd (yn ogystal â gwerthu tir ei gŵr), adeiladodd dŷ bach yn Holden. Symudodd yno gyda'i mam-yng-nghyfraith a Charlien, a mynychodd Sefydliad Normal (tebyg i'r Coleg Normal, Bangor) yn Warrensburg, Missouri, gan ennill ei thystysgrif addysg yng Ngorffennaf 1872. Bu'n dysgu mewn ysgol yn Holden am bedair blynedd cyn graddio mewn hanes. Pwnc ei hymchwil oedd dylanwad athronwyr Groeg ar wleidyddiaeth America.
Bu'n aelod o Undeb Dirwestol Cristnogol y Merched am rai blynyddoedd.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.