Carreg gref iawn yw callestr (neu fflint). Mae'n garreg waddodsilica ac yn edrych fel gwydr. Mae cerrig callestr yn gallu bod yn llwyd tywyll, glas, du neu frown tywyll. Mae llawer ohonyn nhw i'w cael fel cnapau mewn sialc neu galchfaen.
Defnyddir callestr i godi tân ac erbyn y ddeunawfed ganrif mewn arfau tân yn ogystal. Fe'i defnyddid i wneud arfau ac offer eraill fel cyllyll yn ystod Oes y Cerrig.