Ffermdy ffrâm bren a godwyd yn y 15g, rhyw filltir i'r Gogledd-Ddwyrain o Rhuthun, Sir Ddinbych, yw Caer Afallen (weithiau: Caerfallen), sy'n adeilad dau-lawr,
| Math | ffermdy |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 15 g |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Rhuthun |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 62 metr |
| Cyfesurynnau | 53.1266°N 3.30524°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
| Manylion | |
Ffermdy ffrâm bren a godwyd yn y 15g, rhyw filltir i'r Gogledd-Ddwyrain o Rhuthun, Sir Ddinbych, yw Caer Afallen (weithiau: Caerfallen), sy'n adeilad dau-lawr, hynafol, Gradd II*.[1] Cerfiwyd y dyddiad 1492 ar wal allanol, ond mae ei gymeriad pensaernïol yn awgrymu tŷ llawer mwy diweddar, o tua 1600 efallai; mae'n bosib hefyd ei fod wedi’i adeiladu mewn mwy nag un cyfnod. Mae'r ffenestri'n dyddio o ganol y 19g.

Gosodwyd y tŷ ffrâm bren hwn ar lwyfan cadarn o garreg, ac fe'i gorchuddiwyd gyda tho llechen. Mae'r talcenni i'r Gogledd a'r Gorllewin wedi'u gwneud o flociau mawr o gerrig wedi'u trin, gyda thyrrau brics wedi'u mowldio.
Mae'n rhestredig ar radd II* fel ffermdy ffrâm bren is-ganoloesol eithriadol o gain o statws uchelwrol, heb fawr o newid ers ei godi.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.