Corff parafilwrol gweriniaethol Gwyddelig oedd Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon (Saesneg: Provisional Irish Republican Army, Provisional IRA neu PIRA, ar lafar yn aml y Provos). Mewn Gwyddeleg, mae'n defnyddio'r un enw â nifer o gyrff eraill a fu neu sydd yn defnyddio'r enw Byddin Weriniaethol Iwerddon, sef Óglaigh na hÉireann ("Gwirfoddolwyr Iwerddon"). Mae hi wedi cael ei dynodi fel mudiad terfysgol gwaharddedig yn y Deyrnas Unedig, ac fel mudiad anghyfreithlon yng Ngweriniaeth Iwerddon. Gwêl y PIRA ei hun fel olynydd uniongyrchol Byddin Weriniaethol Iwerddon (IRA), a ymladdodd yn erbyn lluoedd y Deyrnas Unedig yn Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon. Mae'r "Dros Dro" yn y teitl yn adlais bwriadol o'r "Llywodraeth Dros Dro" a gyhoeddwyd yn ystod Gwrthryfel y Pasg, 1916.
Ffurfiwyd Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon yn 1969, pan holltodd oddi wrth Fyddin Weriniaethol Swyddogol Iwerddon. Ei nod oedd rhoi diwedd ar statws Gogledd Iwerddon o fewn y Deyrnas Unedig ac uno Iwerddon dan un llywodraeth sosialaidd. O 1969, bu'n cynnal ymgyrchoedd arfog i'r diben hwn. Ymysg digwyddiadau mwyaf nodedig yr ymgyrch roedd Streic Newyn Wyddelig 1981, pan aeth nifer o aelodau'r Fyddin oedd yn y carchar ar streic newyn i fynnu cael eu trin fel carcharorion rhyfel. Bu deg ohonynt farw o newyn, yn cynnwys arweinydd y streic, Bobby Sands. Cynhaliodd ymgyrch fomio yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr yn erbyn yr hyn a welai fel targedau milwrol, gwleidyddol ac economaidd.[1] Ar 28 Gorffennaf2005, cyhoeddodd Cyngor y Fyddin fod yr ymgyrch arfog ar ben, ac y byddai o hynny ymlaen yn gweithio tuag at ei nod drwy ddulliau heddychol yn unig.
Ar 28 Gorffennaf 2005, cyhoeddodd Cyngor Byddin yr IRA ddiwedd ar ymladd gan ddefnyddio arfau, gan ddweud y byddai'n parhau i frwydro gan ddefnyddio "dulliau hollol wleidyddol a democrataidd a hynny yn gyfan gwbl ddi-drais." Aeth yn ei flaen i ddweud, "na ddylai Gwirfoddolwyr yr IRA ymroi i unrhyw fath arall o weithgaredd."[2] Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 2007, ysgrifennwyd papur swyddogol gan uwchswyddog o Fyddin Prydain yn dweud fod Byddin Prydain wedi methu â choncro'r IRA drwy drais, ond mynnodd hefyd iddi ddangos i'r IRA na allai hithau lwyddo drwy ddulliau trais. Aeth yr uwchswyddog yn ei flaen i ddisgrifio'r IRA fel corff "proffesiynol, sgilgar a chryf".[3]
Hanes
Ffurfiwyd yr IRA ym 1913 fel Gwirfoddolwyr Iwerddon, mewn cyfnod pan oedd Iwerddon gyfan yn rhan o'r Deyrnas Unedig.[4]
Cymerodd y Gwirfoddolwyr ran yng Ngwrthryfel y Pasg 1916 yn erbyn rheolaeth Prydain ac yn y Rhyfel Annibyniaeth, pan ddaethon nhw i gael eu hadnabod fel Byddin Weriniaethol Iwerddon. Yn dilyn y rhyfel hwnnw, lluniwyd Cytundeb Eingl-Wyddelig, oedd yn rhannu Iwerddon i Wladwriaeth Rydd Iwerddon a Gogledd Iwerddon, a fyddai’n aros fel rhan o'r Deyrnas Unedig.[5] Achosodd y trefniant hwn hollt yn yr IRA, gan amsugno'r IRA, oedd o blaid y Cytundeb, i mewn i'r Fyddin Genedlaethol, byddin a wnaeth yn y pen draw drechu'r grŵp IRA oedd yn erbyn y Cytundeb, yn y Rhyfel Cartref. Yn dilyn hynny, wrth wadu cyfreithlondeb y Wladwriaeth Rydd, canolbwyntiodd yr IRA ar ddymchwel gwladwriaeth Gogledd Iwerddon gyda’r bwriad o sefydlu Iwerddon unedig.[6] Er mwyn cyflawni’r bwriad hwnnw, cynhaliwyd ymgyrch fomio yn Lloegr ym 1939 a 1940, ymgyrch yng Ngogledd Iwerddon yn y 1940au, ac ymgyrch y Gororau rhwng 1956 a 1962.[7] Yn dilyn methiant ymgyrch y Gororau, cynhaliwyd trafodaeth fewnol ynghylch dyfodol yr IRA. Roedd y Pennaeth Staff, Cathal Goulding, eisiau i'r IRA fabwysiadu agenda sosialaidd a chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, tra bod gweriniaethwyr traddodiadol fel Seán Mac Stíofáin eisiau cynyddu'r ymgyrch recriwtio ac ailadeiladu'r IRA.[8]
Yn dilyn rhaniadau yn yr IRA, ffurfiodd y gweriniaethwyr traddodiadol Gyngor y Fyddin "Dros Dro" ym mis Rhagfyr 1969, wedi i gonfensiwn yr IRA gael ei gynnal yn Knockvicar House yn Boyle, Swydd Roscommon. Mae'r digwyddiad hwn yn nodi dechrau'r IRA Dros Dro.[9] Erbyn 1971, roedd y Darpariaethwyr Dros Dro wedi etifeddu'r mwyafrif o strwythur sefydliad yr IRA a fodolai adeg hynny yng Ngogledd Iwerddon, yn ogystal ag aelodau mwy milwriaethus yr IRA yng ngweddill Iwerddon. Yn ogystal, fe wnaethant recriwtio llawer o genedlaetholwyr ifanc o Ogledd Iwerddon, nad oeddent wedi bod yn rhan o'r IRA yn flaenorol, ond a gawsant eu radicaleiddio gan y trais a ddigwyddodd yn Belffast, Derry ac mewn mannau eraill ym 1969.[10]
Gweithredu milwrol
Yn dilyn trais Awst 1969, dechreuodd yr IRA arfogi a hyfforddi i amddiffyn ardaloedd cenedlaetholgar rhag ymosodiadau pellach.[11] Ym mis Ionawr 1970 penderfynodd Cyngor y Fyddin fabwysiadu strategaeth tri cham; amddiffyn ardaloedd cenedlaetholgar, yna cyfuniad o amddiffyn a dial, ac yn olaf lansio ymgyrch gerila yn erbyn Byddin Prydain.
O ganlyniad i'r trais cynyddol, cychwynnwyd cyflwyno ‘carchariad heb dreial’ gan lywodraeth Gogledd Iwerddon ar 9 Awst 1971.[12] Er bod y trais teyrngarol wedi cynyddu hefyd, roedd pob un o'r 342 o bobl a ddrwgdybiwyd gan yr awdurdodau ac a gafodd eu harestio yn weriniaethwyr, gan gynnwys gweithredwyr gwleidyddol nad oeddent yn gysylltiedig â'r IRA ac arweinwyr hawliau sifil myfyrwyr. Canlyniad hyn oedd uno'r holl Babyddion mewn gwrthwynebiad i'r llywodraeth, a dechreuodd terfysgoedd protest ar draws Gogledd Iwerddon. Lladdwyd dau ddeg dau o bobl yn ystod y tridiau nesaf, gan gynnwys chwech o sifiliaid a laddwyd gan Fyddin Prydain yng nghyflafan Ballymurphy ar 9 Awst, ac ym Melffast gorfodwyd 7,000 o Gatholigion a 2,000 o Brotestaniaid o’u cartrefi gan y terfysg.[13] Achosodd y dacteg hon o garcharu gynnydd dramatig yn lefel y trais - er enghraifft, yn y saith mis cyn cychwyn cyflwyno ‘carchar heb dreial’, lladdwyd 34 o bobl, ond lladdwyd 140 o bobl rhwng cyflwyno'r dacteg carcharu a diwedd y flwyddyn. Roedd y nifer hwn yn cynnwys deg ar hugain o filwyr ac un ar ddeg o swyddogion yr RUC. Rhoddodd y dacteg hon hwb i waith recriwtio'r IRA, a rhoddwyd hwb pellach i waith recriwtio IRA ar ôl ‘Bloody Sunday’ yn Derry ar 30 Ionawr 1972, pan laddodd Byddin Prydain bedwar ar ddeg o sifiliaid arfog yn ystod gorymdaith gwrth-gaethiwo.[14] Gan fod y sefyllfa ddiogelwch yn dirywio yng Ngogledd Iwerddon ataliodd llywodraeth Prydain senedd Gogledd Iwerddon a phenderfynodd Llywodraeth Prydain sefydlu rheolaeth uniongyrchol ar Ogledd Iwerddon ym mis Mawrth 1972. Roedd atal senedd Gogledd Iwerddon yn un o amcanion allweddol yr IRA, oherwydd drwy gynnwys llywodraeth Prydain yn uniongyrchol yng Ngogledd Iwerddon, roedd yr IRA eisiau i'r gwrthdaro gael ei weld fel cynnen rhwng Iwerddon a Phrydain.[15]
Dwysawyd yr ymgyrch fomio ym 1972 pan gyflwynwyd y bomiau car. Yn nyddiau cynnar yr Helyntion, roedd yr IRA wedi ei arfogi'n wael iawn, yn bennaf gyda hen arfau'r Ail Ryfel Byd fel gynnau tanfor M1 Garands a Thompson. Ond yn gynnar yn y 1970au, prynwyd llawer iawn o arfau modern o ffynonellau fel cefnogwyr yn yr Unol Daleithiau, arweinydd Libia, sef y Cyrnol Muammar Gaddafi, a gwerthwyr arfau yn Ewrop, Gogledd America, y Dwyrain Canol, ac mewn mannau eraill. Darparodd y Libyaid hefyd gyflenwad o lanswyr rocedi RPG-7 i'r IRA.[16]
Ym mlynyddoedd cyntaf y gwrthdaro, prif weithgareddau'r IRA oedd darparu pŵer arfog i gefnogi terfysgwyr cenedlaetholgar ac amddiffyn ardaloedd cenedlaetholgar rhag ymosodiadau. Enillodd yr IRA lawer o gefnogaeth oherwydd y math hwn o dactegau a gweithredoedd, gan eu bod yn cael eu hystyried yn gyffredinol yn y gymuned genedlaetholgar fel amddiffynwyr cenedlaetholwyr Gwyddelig a phobl Gatholig yn erbyn ymddygiad ymosodol.
Rhwng 1970 a 1994, lansiodd yr IRA ymgyrch arfog ymosodol barhaus a oedd yn targedu Byddin Prydain yn bennaf, yr RUC, Catrawd Amddiffyn Wlster (UDR), a thargedau economaidd yng Ngogledd Iwerddon. Roedd presenoldeb a gweithgareddau'r IRA wedi eu lleoli’n bennaf yng Ngogledd Iwerddon, er iddo fynd â'i ymgyrch i Loegr a thir mawr Ewrop. Ymhlith rhai o dargedau'r IRA roedd rhai o swyddogion llywodraeth Prydain, gwleidyddion, barnwyr, ffigyrau'r sefydliad, Byddin Prydain a swyddogion heddlu yn Lloegr. Roedd hefyd yn targedu ardaloedd eraill fel Gweriniaeth Iwerddon, Gorllewin yr Almaen, a'r Iseldiroedd. Erbyn dechrau'r 1990au, roedd ymgyrch yr IRA yn cael ei harwain gan Frigâd De Armagh, a oedd yn adnabyddus am ei gweithrediadau sneipio (tanio o guddfan at y gelyn) a'i hymosodiadau ar hofrenyddion Byddin Prydain. Roedd yr ymgyrch fomio yn targedu targedau gwleidyddol, economaidd a milwrol yn bennaf, ac fe’i disgrifiwyd gan Andy Oppenheimer fel “yr ymgyrch fomio derfysgol fwyaf mewn hanes”.[17] Yn gynnar yn y 1990au dwysaodd yr IRA ei hymgyrch fomio yn Lloegr, gan osod 15 bom yn 1990, 36 ym 1991, a 57 ym 1992.[18] Lladdwyd tri o bobl yn sgil bomio’r Gyfnewidfa Baltig ym mis Ebrill 1992 gan achosi difrod a amcangyfrifiwyd oedd yn werth £800 miliwn - £200 miliwn yn fwy na chyfanswm y difrod a achoswyd gan yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon hyd at y pwynt hwnnw.[19] Dilynwyd hyn gan ymgyrch fomio’r Bishopsgate ym 1993 pan laddwyd un ac achoswyd gwerth tua £1 biliwn o ddifrod.[20] Dadleuwyd bod yr ymgyrch fomio hon wedi helpu i argyhoeddi llywodraeth Prydain (a oedd wedi gobeithio rheoli’r trais a’r gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon gyda'i pholisi ‘Wlstereiddio’ (Ulsterisation)) bod angen cychwyn trafodaethau gyda Sinn Féin.
Erbyn y 1990au roedd yr IRA wedi dod yn fedrus wrth ddefnyddio morterau ac roeddent ar lefel a oedd yn debyg i fodelau milwrol. Arweiniodd saith ymosodiad morter yr IRA at farwolaethau neu anafiadau difrifol. Roedd defnydd yr IRA o dactegau morter wedi digwydd mewn ymateb i'r amddiffynfeydd trwm ar ganolfannau RUC a Byddin Prydain. Roedd morterau yn ddefnyddiol i'r IRA oherwydd gallent gyrraedd targedau pellter byr, a fedrai arwain at ymosodiadau effeithiol mewn ardaloedd trefol.[21]
Gyda’r IRA yn defnyddio strategaeth fwy amlochrog gwelwyd hwy felly'n dechrau defnyddio propaganda arfog. Dechreuwyd defnyddio’r cyhoeddusrwydd a gafwyd o ymosodiadau fel llofruddiaeth yr Arglwydd Mountbatten a Magl Warrenpoint i ganolbwyntio sylw ar wrthwynebiad a gwrthodiad y gymuned genedlaetholgar i reolaeth o dan Lywodraeth Prydain.[22]
Y Broses Heddwch
Roedd cyflwyno'r ‘Ymgyrch Tet’ (Tet Offensive), fel y'i gelwid, yn y 1980au yn ymdrech gan yr IRA i ddwysau a chynyddu lefel y trais. Roedd hwn yn gam a gafodd ei gymeradwyo (yn anfodlon) gan Gyngor Byddin yr IRA. Ni fu'n llwyddiannus. Arweiniodd y sefyllfa hon, ynghyd ag awgrymiadau llywodraeth Prydain bod cyfaddawd[23] ar y gorwel, ac ymholiadau cyfrinachol yn gynnar yn y 1990au, at arweinwyr gweriniaethol yn ystyried datrysiad arall i'r sefyllfa. Yn gynyddol felly, roedd ymdrech i chwilio am gytundeb gwleidyddol i ddod â'r gwrthdaro i ben.[24] Arweiniodd hyn at fwlch cynyddol rhwng Sinn Féin a'r IRA. Roedd arwyddion yn areithiau cyhoeddus dau o Ysgrifenyddion Gwladol Gogledd Iwerddon, Peter Brooke a Patrick Mayhew, bod y cyfnod treisgar yn dod i ben, a bod cyfaddawd gwleidyddol gyda’r IRA yn bosibl.[25]
Ar ôl i'r IRA ddatgan cadoediad newydd ym mis Gorffennaf 1997, derbyniwyd Sinn Féin i sgyrsiau hollbleidiol, ac arweiniodd hyn at lunio Cytundeb Dydd Gwener y Groglith 1998. Yn dilyn y cytundeb dechreuodd yr IRA ddadgomisiynu ei arfau.