Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Rossendale (Saesneg: Borough of Rossendale).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 138 km², gyda 71,482 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar dair ardal arall yn Swydd Gaerhirfryn, sef Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen i'r gorllewin, a Bwrdeistref Hyndbyrn a Bwrdeistref Burnley i'r gogledd. Mae hefyd yn ffinio ar Orllewin Swydd Efrog i'r dwyrain a Manceinion Fwyaf i'r de.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Mae rhan fwyf y fwrdeistref yn ddi-blwyf, ond mae ganddi un plwyf sifil mawr, sef Whitworth. Mae ei phencadlys yn nhref Bacup. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Haslingden, Rawtenstall a Whitworth.
Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!