Bwrdeistref fetropolitan yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Knowsley (Saesneg: Metropolitan Borough of Knowsley).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 86.5 km², gyda 150,862 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Lerpwl a Bwrdeistref Fetropolitan Sefton i'r gorllewin, Bwrdeistref Fetropolitan St Helens i'r dwyrain, Swydd Gaerhirfryn i'r gogledd a Swydd Gaer i'r de.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir y fwrdeistref yn bum plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Huyton, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Halewood, Kirkby a Prescot. Enwir y fwrdeistref ar ôl Knowsley, sy'n bentref mawr.
Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!