Ffurfiwyd y fwrdeistref ar 1 Ebrill 1974 fel ardal an-fetropolitan o dan reolaeth yr hen sir an-fetropolitan Berkshire. Pan ddiddymwyd y cyngor sir ar 1 Ebrill 1998, daeth y fwrdeistref yn awdurdod unedol.
Lleolir pencadlys yr awdurdod yn nhref Bracknell. Mae aneddiadau eraill yn ardal yr awdurdod yn cynnwys trefi Sandhurst a Crowthorne.