Bussang

Mae Bussang yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Grand Est, Ffrainc. Mae'n un o'r 189 o gymunedau sydd ym Mharc Naturiol Rhanbarthol Ballons des Vosge

Bussang
Bussang
Mathcymuned, cyrchfan sgïo Edit this on Wikidata
LL-Q150 (fra)-Poslovitch-Bussang.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,261 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolBallons des Vosges Regional Natural Park Edit this on Wikidata
Arwynebedd27.63 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr568 metr, 1,221 metr, 828 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Moselle Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLe Ménil, Saint-Maurice-sur-Moselle, Ventron, Fellering, Urbès, Fresse-sur-Moselle Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.8856°N 6.8536°E Edit this on Wikidata
Cod post88540 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Bussang Edit this on Wikidata
Map

Mae Bussang yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Grand Est, Ffrainc. Mae'n un o'r 189 o gymunedau sydd ym Mharc Naturiol Rhanbarthol Ballons des Vosges.[1] Saif ar lan Afon Moselle. Amgylchir y  gymuned gan nifer o goedwigoedd.

Mae’r gymuned yn nodedig am ei ffynhonnau o ddyfroedd mwynol ac am ei lethrau sgïo

Poblogaeth

Safleoedd a henebion

Dyfroedd mwynol

Mae Bussang wedi bod yn enwog am ei ffynhonnau o ddyfroedd mwynol ers y 17g pan ddechreuodd dugiaid Lorraine ymweld â nhw. Trodd yn dref sba poblogaidd yn 19g. Mae yna 4 ffynnon yn y gymuned: y Salmade mawr y Salmade bach, les Demoiselles a’r source Marie. Mae’r dŵr yn uchel ei gynnwys o haearn a gan hynny yn cael ei ystyried yn llesol i’r sawl sy’n dioddef o anemia.

Wedi dioddef difrod yn yr Ail Ryfel Byd dechreuodd llif tri o’r ffynhonnau arafu a phenderfynwyd eu cau ym 1958 gan fod y llif isel wedi achosi halogiad bacteriol, dim ond y source Marie sydd wedi goroesi. Mae gan awdurdodau’r gymuned cynlluniau i ail adeiladu'r diwydiant dyfroedd mwynol trwy dyllu am ffynhonnell newydd ar fynydd Charat.

Ffynhonnell y Moselle

Mae’r Moselle yn afon 560 km o hyd sy’n llifo trwy Ffrainc, Lwcsembwrg a’r Almaen.

Honnir bod ffynnon a leolir  731 metr uwchben lefel y môr ger Bussang yw ffynhonnell yr afon. Mewn gwirionedd mae’r afon yn cael ei ffurfio trwy undeb nifer o nentydd ar lethrau'r Grand Drumont, rhai ohonynt dros 1,000 metr o’r ffynhonnell swyddogol.

Theatr y Bobl

Crëwyd Theatr y Bobl gan Maurice Pottecher ym 1895. Wedi ei hadeiladu o bren, mae gan y theatr nodwedd neilltuol, sef bod modd agor wal cefn y llwyfan, gan gynnig golygfa o’r mynyddoedd fel cefndir naturiol i berfformiadau. Cofrestrwyd y theatr fel heneb o bwys hanesyddol ar 2 Awst 1976[2].

Memorial de Steingraben

Carreg coffa er cof am y sawl a saethwyd yn Vosages am wrthsefyll yn erbyn y Natsïaid ym mis Medi a Hydref 1944. Mae ger y ffordd sy'n disgyn o'r col de Bussang i Urbes.

Sgïo

Mae gan Bussang

  • 8 llethr sgïo alpaidd, 42 canon eira a bryn neidio sgïo yn gyda 4 lifft llusgo
  • 3 llwybr sgïo alpaidd
  • Llwybr sgïo draws wlad ger Larcenaire
  • Bryn sgïo o 50m yn La Bouloie
  • Llethr tobogan 

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Carte d'identité du Parc naturel régional des Ballons des Vosges". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-18. Cyrchwyd 2017-09-13.
  2. Notice no PA00107098, base Mérimée, ministère français de la Culture
Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.