Mae Brwydr Coed Llathen a Brwydr y Cymerau yn ddwy frwydr a ymladdwyd ar yr un diwrnod (2 Mehefin1257), lle cafodd Byddin Cymru ddwy fuddugoliaeth fawr yn erbyn y Saeson. Cânt eu cyfrif ymhlith y brwydrau pwysicaf a ymladdwyd yn hanes Cymru, gyda'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, yn ei anterth. Mae rhai haneswyr yn eu hysyried yn un frwydr, mewn dwy ran: y cyntaf yng Nghoed Llathen, plwyf Llangathen - tua 5 km i'r gorllewin o Landeilo, a'r ail yn 'y Cymerau'. Mae lleoliad Coed Llathen yn wybyddus ers canrifoedd (gweler map 1888 yr Os; cyfeirnod grid SN579229), a cheir nifer o enwau caeau a lleoedd eraill sy'n coffau'r frwydr, ond ceir ychydig o ddadl am union leoliad 'Cymerau' a ymladdwyd pan oedd byddin Lloegr ar ffo. Lladdwyd 3,000 o Saeson a llond dwrn o Gymry.
Cofnodwyd yr hanes yn yr Annales Cambriae ac ym Mrut y Tywysogion (Peniarth MS 20 a Llyfr Coch Hergest). Disgrifir y frwydr hefyd yn Saesneg gan Mathew Paris yn ei Chronica Majora, lle nodir fod y golled i'r Saeson yn un enfawr, ac mewn nifer o lawysgrifau eraill, yn bennaf ym mynachlogydd Osney a Tewkesbury.
Yn fuan cyn Pasg 1257, fe aeth Llywelyn ap Iorwerth i ryfel ar draws ffin Aberteifi yr holl ffordd i Faldwyn. Yn yr haf, anfonwyd byddin breninol Seisnig i wrthymosod, ac roedd yn ymwybodol fod pwer Llywelyn tu hwnt i Wynedd yn rhannol yn deillio o'i cydweithrediad gyda Maredudd ap Rhys Gryg. Bwriad y brenin Edward oedd dychwelyd tiroedd i Rhys Fychan a ildiodd i Maredudd yn dilyn ymyrraeth Llywelyn. Mae'n debygol y daeth y syniad tu ôl i'r cynllun gan Stephen Bauzan yn dilyn ei aflwyddiant y flwyddyn gynt ac felly roedd ganddo reswm dros ymgyrch newydd yn ardal Ystrad Tywi.[1]
Brwydrau
Llandeilo
Gadawodd Stephen Bauzan Gaerfyrddin ar 31 Mai 1257 ac ar ôl deithio am ddiwrnod daeth ei fyddin i ardal Llandeilo Fawr lle gwersyllant. Yn ystod y nos, bu Maredudd ab Owain a Maredudd ap Rhys yn anfon eu milwyr o amgylch y wersyllfa. Pan dorodd y wawr bu ymosodiad ganddynt gan fwrw cawod o saethau a gwaywffyn arnynt. Bu'n rhaid i gadlywyddion Bauzan gydnabod na fyddent yn cyrraedd Dinefwr y diwrnod hwnnw. Llithrodd Rhys Fychan i ffwrdd y diwrnod canlynol a theithiodd i Ddinefwr ar ben ei hun. Bu ymosodiad gan y Cymry am ail ddiwrnod a bu eu harfwisg dim gwell na gorchuddion lliain oherwydd ffrynigrwydd ymosodiad y Cymry.[1]
Coed Llathen a'r Cymerau
Penderfynodd gadlywyddion Bauzan i deithio i Aberteifi, lle'r arhosai dynion a chyflenwadau o Iwerddon a orchmynwyd gan Edward. Yna yng Nghoed Llathen, collodd fyddin Bauzan rhan mawr o'i cyflenwadau ac ar ôl cyrraedd Cymerau tua ganol dydd; bu brwydr ar dir agored lle gollodd y fyddin 'frenhinol' 3,000 o ddynion. Ac er mai o'r argdlwyddiaethau Eingl-Normanaidd y cymerwyd y rhan fwyaf o'r dynion i ffurfio'r fyddin 'brenhinol", roedd llawer ohonynt yn Gymry. Er hyn, nododd y croniclwyr fod y frwydr hon yn fuddigoliaeth Gymreig fawr. Yn ôl Brut y Tywysogion, fe lwyddodd Llywelyn i sicrhau fod Rhys Fychan a Maredudd ap Rhys yn cymodi a parhawyd i frwydr yn y de-orllewin. Er hyn, nid oedd Maredudd yn ymddiried yn Llywelyn bellach i'r un raddau ac roedd yn rhaid iddo roi etifeddiaeth Rhys yn ôl iddo yn Ystrad Tywi. O dan ystyriaeth y croniclwyr, ar ôl y brwydrau hyn roedd Llywelyn wedi dyrchafu ei statws i'r un raddau a Llywelyn Fawr. Nodir arwyddocad y frwydr hefyd gan y croniclwr o Sais Mathew Paris, lle roddir moliant i Llywelyn a beirniadaeth llym o Edward.[1]
Gweler hefyd
Brwydr Bryn Derwin - pan drechodd Llywelyn ei frodyr Owain a Dafydd, gan ddod a Gwynedd gyfan dan ei reolaeth.
Brwydr Cydweli - buddugoliaeth arall i Fyddin Cymru yn 1258