Brech wen

Afiechyd meddwl Alcoholiaeth Annwyd Anorecsia nerfosa Asma Syndrom Asperger Awtistiaeth Blinder meddwl Brech goch Brech ieir Brech Wen Briwiau'r geg BSE Cansar

Brech wen
Brech wen
Enghraifft o:math o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathclefyd y croen, Poxviridae infectious disease, eradicated disease Edit this on Wikidata
Daeth i ben1978 Edit this on Wikidata
SymptomauBlinder meddwl, brech, cur pen, poen yn yr abdomen, chwydu, pothell, pimple edit this on wikidata
Dynodwyr
Thesawrws NCIC35027 edit this on wikidata
Freebase/M/06vr2 edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF43162 edit this on wikidata
MeSHD012899 edit this on wikidata
UMLS CUIC0037354 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Plentyn yn dioddef o'r frech wen

Haint a achosir gan y feirws Variola, oedd y frech wen (Saesneg: Smallpox). Cafodd yr achos naturiol olaf ei ganfod yn Hydref 1977 ac ardystiodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) fod yr afiechyd wedi ei ddileu yn fyd-eang erbyn 1980.[1] O'r herwydd, y frech wen yw'r unig afiechyd dynol i gael ei ddileu hyd mor belled..[2]

Variola major oedd yn achosi'r math mwyaf difrifol, gyda 30–35% o'r cleifion yn marw, tra bod llai na 1% o'r rhai a effeithir gan Variola minor yn marw.[3]

Credir i'r haint ymddangos tua 10,000 CC. Yn ystod y 18g, credir fod y frech wen wedi lladd tua 400,000 o Ewropeaid bob blwyddyn. Roedd ei effaith yn waeth ar blant, gyda dros 80% o'r plant yn marw.[4] Erbyn yr 20g roedd brechu yn erbyn yr haint wedi datblygu, ac yn raddol diflannodd o Ewrop, ond parhaodd yn broblem yn y trydydd byd am gyfnod hirach. Amcangyfrifir fod 300–500 miliwn o bobl wedi marw o'r frech wen yn ystod yr 20g. Ar 9 Rhagfyr 1979, cyhoeddodd WHO fod y frech wen wedi ei dileu; yr unig haint i gael ei dileu yn llwyr hyd yma.

America

Cafodd y frech wen ddylanwad mawr ar hanes cyfandir America. Nid oedd yn bod yno hyd nes iddi gyrraedd gyda'r Ewropeaid cyntaf, a chan nad oedd gan y trigolion brodorol wedi bod mewn cysylltiad a'r haint o'r blaen, lledaenodd yn gyflym gan achosi cyfran uchel o farwolaethau. Cred rhai ysgolheigion i rhwng 90% a 95% o boblogaeth frodorol America farw o heintiau Ewropeaidd, a'r frech wen oedd yn gyfrifol am y nifer fwyaf o farwolaethau. Roedd yn elfen bwysig ym muddugoliaeth y Sbaenwyr dros wareiddiadau'r Inca a'r Asteciaid. Fel rheol cael ei drosglwyddo'n anfwriadol yr oedd, ond credir i'r Prydeinwyr ei ledu'n fwriadol ymhlith llwythau brodorol oedd mewn cynghrair a'r Ffrancwyr yng Ngogledd America yng nghanol y 18g, trwy roi blancedi pobl oedd wedi marw o'r frech wen iddynt.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Smallpox". WHO Factsheet. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Medi 2007.
  2. "Smallpox – Symptoms and causes". Mayo Clinic (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Ebrill 2022. Cyrchwyd 2022-04-27.
  3. Ryan KJ, Ray CG (editors) (2004). Sherris Medical Microbiology (arg. 4th). McGraw Hill. tt. 525–8.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  4. Barquet N, Domingo P (15 October 1997). "Smallpox: the triumph over the most terrible of the ministers of death". Ann. Intern. Med. 127 (8 Pt 1): 635–42. http://www.annals.org/cgi/content/full/127/8_Part_1/635.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.