Bitterballen

Pryd o fwyd ysgafn wedi ei seilio ar gig o'r Iseldiroedd yw Bitterballen (lluosog o bitterbal). Caiff eu creu trwy wneud stiw trwchus iawn wedi'i dewychu â rou

Bitterballen
Bitterballen
Mathbeef dish Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0bcx86 edit this on wikidata
QuoraBitterballen edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Caiff Bitterballen eu bwyta fel pryd ysgafn yn yr Iseldiroedd, fel arfer gyda mwstard.
Bitterbal, yn dangos y roux meddal y tu mewn

Pryd o fwyd ysgafn wedi ei seilio ar gig o'r Iseldiroedd yw Bitterballen (lluosog o bitterbal). Caiff eu creu trwy wneud stiw trwchus iawn wedi'i dewychu â roux a stoc eidion a'i lwytho â chig; yna rhoi'r stiw yn yr oergell nes iddi fynd yn galed; ac yna rholio'r gymysgedd drwchus yn beli, eu gorchuddio â briwsion bara a'u ffrio. Mae cynhwysion y stiw fel arfer yn cynnwys winwns, halen a phupur, persli a nytmeg. Mae'r rhan fwyaf o ryseitiau'n cynnwys nytmeg, ac mae yna amrywiadau hefyd gan ddefnyddio powdr cyri, neu sy'n ychwanegu llysiau wedi'u torri'n fân megis moron.[1][2] Mae'r cynhwysion yn cael eu cyfuno a'u coginio, yna eu hoeri er mwyn i'r gymysgedd gadarnhau. Unwaith y bydd yn gadarn, caiff y cymysgedd ei rolio i mewn i beli tua 3cm i 4cm mewn diamedr cyn ei orchuddio a'u ffrio'n ddwfn.[3] Fel arfer maent yn cael eu gweini â chawslestr ramecin neu bowlen fach o fwstard er mwyn dipio. Maen nhw'n cael eu bwyta yn Swrinam, Antilles yr Iseldiroedd,[4] yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, ac i raddau yn Indonesia.

Mae bitterballen yn debyg iawn i'r fersiwn Iseldireg o kroketten (lluosog o kroket). Mae ganddynt gynhwysion tebyg a dulliau paratoi / coginio tebyg, yn ogystal â'u blas, er bod gan y kroketten mwy siâp hirsgwar / hirgrwn amlwg fel selsig, ond gyda diamedr tebyg.[5] Mae'r bitterbal yn deillio ei enw o air cyffredinol am rai mathau o ddiodydd alcoholig â blas perlysiau, a elwir yn bitter yn Iseldireg. Mae'n boblogaidd i'w weini fel rhan o bittergarnituur, casgliad o brydiau ysgafn sawrus i fynd gyda diodydd, mewn tafarndai neu mewn derbynfeydd yn yr Iseldiroedd.[2]

Cyfeiriadau

  1. "Bitterballen from curry mash (recipe in Dutch) | Smulweb.nl". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-10. Cyrchwyd 2019-12-04.
  2. 2.0 2.1 "Bitterballen - Dutch Cocktail Croquettes - LifeStyle Food". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-15. Cyrchwyd 2019-12-04.
  3. 240.000 Rezepte / Kochrezepte bei Chefkoch.de
  4. Caribbean Croquettes: Bitterbal
  5. Authentic Dutch Bitterballs | Yummy Dutch

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.