Roedd Bert Lewis Coombes (9 Ionawr1893 – 4 Mehefin1974), a adnabyddir fel Bertie Lewis Coombs Griffiths pan oedd yn blentyn, yn llenor a gafodd ei eni yn Lloegr ond a symudodd i Resolfen yng Nghymru cyn y Rhyfel Byd Cyntaf; treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd gwaith ym mhyllau glo maes glo De Cymru, testun llawer o'i waith llenyddol.
Bywyd cynnar
Ganed Coombes yn Wolverhampton a'i fagu yn Swydd Henffordd, yn unig blentyn James Coombs Griffiths, groser, a Harriet Thompson.
Ychydig flynyddoedd ar ôl genedigaeth Bertie, peidiodd y teulu ag arddel y cyfenw Griffiths a mabwysiadwyd enw canol ei dad, 'Coombs' fel cyfenw, gan ei sillafu fel 'Cumbes' neu 'Coombes'.[1] Symudodd y teulu i Dreharris yn ne Cymru lle cymerodd ei dad waith yng Nglofa Deep Navigation a mynychodd Bertie'r ysgol gynradd. Yn 1905 neu 1906 cymerodd ei rieni denantiaeth fferm fechan yn Madley, Swydd Henffordd, a gadawodd Bertie'r ysgol i weithio fel gwas fferm. Yn ddiweddarach daeth yn was i feddyg lleol ond gan fod ei deulu bob amser yn cael trafferth talu rhent y fferm, yn 1910, gadawodd a symud i dde Cymru i fod yn löwr.[2]
Yn y pyllau glo
Ymsefydlodd Coombes yn Resolfen yng Nghwm Nedd a dechreuodd weithio fel cynorthwyydd glowyr mewn pwll glo carreg. Yn 1913 priododd Mary Rogers, merch ysgrifennydd cyfrinfa leol Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Cawsant ferch o'r enw Rose a aned y flwyddyn ganlynol, a mab o'r enw Peter a aned ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Buont yn ŵr a gwraig am pum deg chwech o flynyddoedd.[2] Treuliodd ddeugain mlynedd yn gweithio dan ddaear.
Sylweddolodd Coombes nad oedd gan y rhai y tu allan i'r diwydiant glo unrhyw syniad o waith y glowyr a'r peryglon dyddiol yr oeddent yn eu hwynebu. Er gwaethaf ei addysg gyfyngedig, teimlai Coombes yr ysfa i hysbysu'r cyhoedd yn gyffredinol am y diwydiant mwyngloddio a'r cymunedau glofaol.[3] Yn ei bedwardegau, dechreuodd wneud hyn, gan ysgrifennu gyda'r nos ar ôl diwrnod yn y pwll. Ar y dechrau gwrthodwyd ei lawysgrifau gan gyhoeddwyr ond yn y diwedd daeth ar draws John Lehmann, golygydd y "New Writing". Ceisiodd y cylchgrawn llenyddol hwn chwalu rhwystrau cymdeithasol a chyhoeddodd ddarnau o waith gan awduron dosbarth gweithiol yn ogystal ag awduron dosbarth canol addysgedig.
Cyhoeddwyd stori fer Coombes, o'r enw, The Flame. Cynnwys y stori fer oedd disgrifiad manwl o ddioddefaint arswydus glöwr, yn gorwedd ar ei fol mewn gwythïen lo ddeunaw modfedd o uchder, pan mae methan ymdreiddiol yn cael ei danio gan ei lamp carbid tra mae'n pacio deinameit i mewn i dwll.[2] Cafodd y stori ganmoliaeth fawr ac arweiniodd at wahoddiadau gan gyhoeddwyr eraill. Dilynodd mwy o straeon byrion, yn seiliedig ar ddigwyddiadau yr oedd wedi'u profi.[2]
Mae ei weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys:
These Poor Hands: The Autobiography of a Miner Working in South Wales (1939)
Miners Day (Harmondsworth, 1945), lle mae Coombes yn adrodd am weithgareddau bob dydd glöwr y tu mewn a'r tu allan i'r pwll, y cwynion, yr agweddau a'r cyfeillgarwch.[4]
Mae yna dri rhifyn diweddar o'i waith:
BLCoombes, gyda 75 o ddelweddau o’r Rhondda gan Isabel Alexander (darlunydd rhifyn 1945), wedi’i olygu gan Peter Wakelin, Miner’s Day (2021), ISBN978-1-913640-38-5, Gwasg Parthian [5]
B.Jones a C.Williams (gol) With Dust Still in his Throat - The Writing of B. L. Coombes, The Voice of a Working Miner (2014),ISBN978-1-78316-149-2, Gwasg Prifysgol Cymru,
BLCoombes, These Poor Hands: The Autobiography of a Miner Working in South Wales (2002),ISBN978-0-7083-1563-7, Gwasg Prifysgol Cymru
With dust still in his throat : an anthology of writing[6]
Derbyniad beirniadol
Yn 1974, ysgrifennodd y Times Literary Supplement fod Coombes "yn un o'r ychydig awduron proletarian o'r 1930au a oedd yn drawiadol fel ysgrifenwyr yn hytrach na phroletariaid." Ysgrifennodd y Bwletin Hanes Cymdeithasol, "Gan gwmpasu'r 1930au a'r 1940au, ac felly'n crynhoi ffordd o fyw sydd wedi diflannu, mae pryder Bert Coombes am realiti ffawd y glöwr yn gofnod o ddiddordeb mawr i'r hanesydd cymdeithasol." [7]
Cyfeiriadau
↑Chris Williams, ‘Coombes, Bert Lewis (1893–1974)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 accessed 10 Nov 2013