Cerbyd â dwy olwyn yw beic modur, neu motobeic, a gaiff ei bweru gan fodur. Mae beiciau modur yn amrywio yn dibynnu ar eu pwrpas, er enghraifft teithio pellter hir, llywio trwy traffig trefol dwys, criwser, chwaraeon a rasio, neu traws gwlad. Dyma'r ffurf rhataf a'r mwyaf cyffredin mewn nifer o wledydd yn fyd eang.