Ffigur yn llên gwerin yr Eidal sy'n gysylltiedig â Nos Ystwyll (5 Ionawr) yw'r Befana[1]. Mae hi'n debyg i hen wrach. Mae'n ymweld â holl blant yr E
| Enghraifft o: | bod dynol ffuglennol, un sy'n dod ag anrhegion Nadolig |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0314t6 |
Ffigur yn llên gwerin yr Eidal sy'n gysylltiedig â Nos Ystwyll (5 Ionawr) yw'r Befana[1]. Mae hi'n debyg i hen wrach. Mae'n ymweld â holl blant yr Eidal yn y nos i lenwi eu hosanau â phethau da, megis losin, ffrwythau sych a theganau, os ydyn nhw wedi ymddwyn yn dda. Mae'r rhai sydd wedi ymddwyn yn wael yn gweld bod eu hosanau'n llawn glo neu arlleg. Felly mae hi'n cyflawni rôl debyg i rôl Siôn Corn neu Sant Nicolas yng ngwledydd eraill[2]. Mae'r Befana fel arfer yn cael ei phortreadu fel hen wraig yn gwisgo siôl ac yn cario ysgub a sach wedi'i llenwi ag anrhegion. Mae wedi'i gorchuddio â huddygl oherwydd ei bod yn mynd i mewn i gartrefi trwy'r simnai.
Mae'n debyg bod yr enw "Befana" yn llygriad o'r Eidaleg Epifania (yr Ystwyll).
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.