Babs

Car a dorodd record cyflymder y byd yw Babs, gyda'r Cymro John Parry-Thomas wrth y llyw. Ar 27 a 28 Ebrill 1926, ar draeth Pentywyn, cyrhaeddodd y car gyflymder

Babs
Babs
Brasolwg
Ail enwChitty Bang Bang 4,
Higham Special
CynhyrchwydUnigryw (1926)
Cynlluniwyd ganJ. G. Parry-Thomas,
Clive Gallop
& Louis Zborowski
Corff a siasi
Math o gorffCar injan-blaen; olwynion agored
Pweru a gyriant
InjanLiberty L-12 V12
TrosglwyddiadGyriant-tsiaen

Car a dorodd record cyflymder y byd yw Babs, gyda'r Cymro John Parry-Thomas wrth y llyw. Ar 27 a 28 Ebrill 1926, ar draeth Pentywyn, cyrhaeddodd y car gyflymder o dros 170 mya (270 km/a), record y byd, a safodd am flwyddyn gron.

Hanes y car

Datblygwyd y car Higham Special gan Clive Gallop ar gyfer Cownt Zhorowski, gyrrwr ceir rasio arbennig. Am gyfnod, hwn oedd car cyflyma'r byd. Fe'i rasiwyd yn 'Brooklands' ger Pen-bre, Llanelli, gydag injan awyren Liberty 27,059cc, blwch gêr Benz a gyriant cadwyn. Roedd y Cownt wedi cylchdroi Brooklands ar 116.19 milltir yr awr ym 1924, a gyrwyd y car gan John Cobb hefyd. Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel prif beiriannydd Moduron Leyland, daeth John Parry-Thomas yn yrrwr ceir rasio.

Bu farw'r Cownt ym Monza ym 1924. Prynodd Parry-Thomas y car am £125 o stad y Cownt a'i ailenwi'n 'Babs'. Ailadeiladodd Parry-Thomas y car efo 4 carbwradur Zenith, a phistonau a gynlluniwyd ganddo.[1]

Babs y tu allan i Amgueddfa Wrecsam

Sawl record

Ar 27 Ebrill 1926, torrodd record y byd gyda chyflymder o dros 168.07 milltir, a 169.24 milltir yr awr dros gilomedr ar Draeth Pentywyn, a'r diwrnod nesaf, cyflymodd hyd at 170.62 a 171.09 milltir yr awr, i gyd yn cychwyn ar wib. Roedd yn gystadleuaeth frwdrydig rhwng Malcolm Campbell, Henry Seagrave a Parry Thomas i dorri'r record.

Aeth Parry Thomas yn ôl i Brooklands, a thorrodd "Babs" sawl record dosbarth ar 14 Hydref 1926 gyda chyflymder o dros 5 a 10 milltir, a 10 cilomedr.

Ar 3 Mawrth 1927, ceisiodd Parry-Thomas dorri'r record y byd ar Draeth Pentywyn eto, pan dorrodd cadwyn (ar gyflymder o 170 milltir yr awr) a bu farw Parry-Thomas. Claddwyd y car yn y tywod.

Yn 1969, cloddiwyd y car yn ôl i'r wyneb, a dechreuwyd y gwaith atgyweirio gan Owen Wyn-Owen, darlithydd peirianneg yng Ngholeg Technegol Bangor. Arddangosir 'Babs' yn Amgueddfa Gyflymdra Pentywyn.

Cyfeiriadau

  1. "Traeth Pentywyn: Cofio canrif o gyflymder". BBC Cymru Fyw. 2025-07-28. Cyrchwyd 2025-07-28.

Dolenni allanol

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.