Pippi Longstocking, Emil i Lönneberga, Karlsson-on-the-Roof, The Six Bullerby Children, Bill Bergson, Ronia the Robber's Daughter, The Brothers Lionheart, Mio, My Son
Arddull
llenyddiaeth plant, stori dylwyth teg
Plaid Wleidyddol
Parti Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden
Tad
Samuel August Ericsson
Mam
Hanna Ericsson
Priod
Sture Lindgren
Plant
Lars Lindgren, Karin Nyman
Gwobr/au
Medal Diwylliant ac Addysg, Swediad Rhyngwladol y Flwyddyn, Deutscher Jugendliteraturpreis, Plac Nils Holgersson, Gwobr Lenyddol Svenska Dagbladet, Expressens Heffaklump, Gwobr Selma Lagerlöf, Gwobr 'Right Livelihood', Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Gwobr Zilveren Griffel, Gwobr Hans Christian Andersen, Officier des Arts et des Lettres, Gwobr Illis Quorum, Urdd y Wên, Member of the Order of Vasa, Lisebergsapplåden, Urdd ryddid
Awdur llyfrau plant o Sweden oedd Astrid Anna Emilia Lindgren (née Ericsson), neu fel arfer, Astrid Lindgren, ynganiad (14 Tachwedd1907 - 28 Ionawr2002). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei chyfres Pippi Hosan-hir (Pippi Långstrump; 1945 ymlaen) a'r canlynol: Emil i Lönneberga (1963 a 1997), Karlsson på taket (Saesneg: Karlsson-on-the-Roof; 1955 ymlaen), a Barnen i Bullerbyn ('Chwe Phlentyn Bullerby', Six Bullerby Children neu The Children of Noisy Village yn UDA); 1947. Cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg Siân Edwards o Pippi Hosan-hir gan Wasg y Dref Wen yn 1978.[1]
Gweithiai Lindgren ar Fwrdd Golygyddol Llenyddiaeth Plant yn Nhŷ Cyhoeddi Rabén a Sjögren yn Stockholm ac ysgrifennodd dros 30 o lyfrau i blant. Yn Ionawr 2017, credir mai hi yw'r awdur a gyfieithwyd fwyaf yn y byd, a'r pedwerydd awdur mwyaf awdurdodol ar ôl Enid Blyton, H. C. Andersen a'r Brodyr Grimm. Hyd yma (2019) mae Lindgren wedi gwerthu tua 165 miliwn o lyfrau ledled y byd.[2][3][4][5][6]
Roedd Lindgren yn ferch i Samuel Awst Ericsson (1875-1969) a Hanna Jonsson (1879-1961). Roedd ganddi ddwy chwaer, Stina ac Ingegerd, a brawd, Gunnar Ericsson, a ddaeth yn aelod o senedd Sweden.
Ar ôl cwbwlhau ei chyfnod yn yr ysgol, cymerodd Lindgren swydd gyda phapur newydd lleol yn Vimmerby. Cafodd berthynas â'r prif olygydd (a oedd eisoes yn briod, ac yn dad) ac yn 1926 ar ôl iddi feichiogi, gofynodd iddi ei briodi. Gwrthododd a symudodd i brifddinas Stockholm, gan ddod yn deipydd a stenograffydd (ysgrifennodd y rhan fwyaf o'r llyfrau mewn stenograffi). Ymhen amser, rhoddodd enedigaeth i'w mab, Lars, yn Copenhagen a'i adael yng ngofal teulu maeth.[7][8][9][10][11][12][13]
Wedi cyfnod o deithio, daeth a Lars adref at ei rhieni, a fagodd ef, tra bod Lindgren yn gweithio.
Yn 1932 priododd ei chyflogwr, Sture Lindgren (1898-1952), wedi iddo adael ei wraig. Dair blynedd yn ddiweddarach, ym 1934, rhoddodd Lindgren enedigaeth i ail blentyn, Karin, a fyddai'n dod yn gyfieithydd. Dyfeisiwyd y cymeriad Pippi Longstocking i ddifyrru Karin pan oedd hi'n sâl yn y gwely. Yn ddiweddarach, nododd Lindgren fod Karin wedi gofyn yn sydyn iddi am stori am gymeriad o'r enw "Pippi Longstocking," a chrëwyd y stori fel ymateb i'r cais hwnnw.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden ac roedd ei brawg Gunnar yn aelod o senedd Sweden.
Yn 1941 symudodd Astrid Lindgren a'i theulu i fflat yn Dalagatan, ac yno y bu hyd at ei marwolaeth yn 94 oed.
Gweithiau
Aelodaeth
Bu'n aelod o 'Gymdeithas Y Naw' am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal Diwylliant ac Addysg (1975), Swediad Rhyngwladol y Flwyddyn (1997), Deutscher Jugendliteraturpreis (1956), Plac Nils Holgersson (1950), Gwobr Lenyddol Svenska Dagbladet (1945), Expressens Heffaklump (1970), Gwobr Selma Lagerlöf (1986), Gwobr 'Right Livelihood' (1994), Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg (1978), Gwobr Zilveren Griffel (1983), Gwobr Hans Christian Andersen (1958), Officier des Arts et des Lettres (1991), Gwobr Illis Quorum (1985), Urdd y Wên, Member of the Order of Vasa (1968), Lisebergsapplåden (1985), Urdd ryddid (1995)[14][15][16][17] .