Un o'r chwech ardal an-fetropolitan sy'n gweinyddu llywodraeth leol yn sir seremonïol Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, yw Ardal Fforest y Ddena (Saesneg: Forest of Dean District), sy'n cael ei enwi ar ôl Fforest y Ddena.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 527 km², gyda 86,791 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio â dwy ardal arall Swydd Gaerloyw, sef Ardal Stroud a Bwrdeistref Tewkesbury i'r dwyrain, yn ogystal â siroedd Swydd Gaerwrangon i'r gogledd-ddwyrain, Swydd Henffordd i'r gogledd, a Sir Fynwy i'r gorllewin. Mae'n ffinio Afon Hafren ac Aber Hafren i'r de.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Mae pencadlys yr awdurdod yn nhref Coleford. Trefi eraill yr ardal yw Cinderford, Lydney, Mitcheldean a Newent.
Plwyfi sifil yr ardal yw:
Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!