Ardal an-fetropolitan yn Suffolk , Dwyrain Lloegr , yw Ardal Canol Suffolk (Saesneg: Mid Suffolk District ).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 871 km² , gyda 102,493 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[ 1] Mae'n ffinio Ardal Gorllewin Suffolk i'r gorllewin, Ardal Babergh a Bwrdeistref Ipswich i'r de, Ardal Dwyrain Suffolk i'r dwyrain, a Norfolk i'r gogledd.
Ardal Canol Suffolk yn Suffolk
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 , ar 1 Ebrill 1974 .
Mae aneddiadau yn ardal yr awdurdod yn cynnwys trefi Stowmarket , Eye a Needham Market .
Ers 2011 mae Ardal Canol Suffolk ac Ardal Babergh wedi bod yn cydweithredu i ddarparu gwasanaethau, ac wedi bod yn archwilio'r posibiliadau o uno fel un awdurdod.
Cyfeiriadau