Mae Acaba neu Aqaba neu al-Àqaba (Arabeg: العقبة, al-'Aqaba) yn ddinas ar arfordir Gwlad Iorddonen, prifddinas Ardal Lywodraethol Aqaba. Lleolir y ddinas ar Gwlff Acaba ar ochr ddwyreiniol penrhyn Sinai ar y Môr Coch a dyma'r unig borthladd sydd gan yr Iorddonen. Saif y ddinas wrth ymyl tref fodern Eilat yn Israel ac wrth droed Jabal Umm Nusayla. Mae gan y ddinas boblogaeth o 80,059 o drigolion (2004) a hi yw pumed dinas fwyaf y wlad ar ôl Amman, Zarca, Irbid a Rwseiffa. Mae ganddo faes awyr.
Geirdarddiad
Daw'r enw Arabeg gyfredol o'r ffurf gryno o al-'aqabat Ayla (آيلة العقبة "bwlch Ayla" hynny bwlch yn y mynydd) a gofnodir gyntaf yn 12g gan Idrisi a dyma'r enw a roddwyd i'r lle gan yr Arabiaid ond Ayla oedd yr enw mwyaf cyffredin. Hefyd mae Ibn Battuta (a fu farw yn 1377) yn ei alw'n Akabat Ayla.
Hanes
Roedd gan Aqaba aneddiadau dynol mor bell yn ôl â 4000 CC. Ceir paentiau craig i'r dwyrain o'r dref sy'n tystio fod yno cymuned o bobl yn cyd-fyw.[1]
Dyma, mae'n debyg, oedd aneddiadau cyntaf cymdeithas yr Edomitiaid a drodd y porthladd yn 1,500 yn ganolfan allforio copr bwysig. Roedd y ddinas yn rhan o Deyrnas Edom. Sonia'r Beibl am Ezion-Geber, ger Elath (yr 'Eilat' gyfoes); "Dyma Solomon hefyd yn adeiladu llynges iddo'i hun yn Etsion-geber, sy'n agos i Elat ar lan y Môr Coch yng ngwlad Edom" (1 Brenhinoedd 9:26) [2]. O dan y Ptolemeaid galwyd y dref yn Berenis a galwodd y Rhufeiniaid y lle yn Aila neu Aelana. Roedd Aelana yn ddinas yn Idumea (Edom) yn ardal Petra Arabia. Aeth i Deyrnas Jwda yn nyddiau Brenin Dafydd, ynghyd â dinasoedd eraill Edom. Dechreuodd Solomon fynd i Ofir. Yna fe wnaeth y ddinas wyrdroi a dod yn annibynnol. O dan reolaeth y Rhufeiniaid, roedd yn chwarter y Legio X Fretensis.
Diwedd y cyfnod Rhufeinig
Codwyd, o bosib yr eglwys gyntaf, yn 300 OC, sef Eglwys Aqaba, pan ddaeth y ddinas yn esgobaeth Gristnogol; roedd ei hesgob gyntaf yn bresennol yng Nghyngor Cyntaf Nicaea.[3]
Unwaith eto, roedd yr Iddewon yn annibynnol, ond roedd yr Ymerawdwr Justinian I yn eu herbyn yng nghanol y 6g. Roedd yn ddiwedd ar ffordd Rufeinig o fyw a aeth o Ddamascus i Aqaba i Aman, ac a gysylltodd â'r ffordd a arweiniodd at Balesteina a'r Aifft.
Yr Oesoedd Canol
Yn y 12g, roedd y Croesgadwyr yn byw yn yr ardal ac adeiladwyd caer Helim, a gedwir o hyd; Fe wnaethon nhw hefyd atgyfnerthu ynys Graye (Ynys y Pharo) tua 7 km o'r arfordir (heddiw yn nyfroedd yr Aifft). Yn 1170, adenillodd Saladin yr ardal. Yn 1250, aeth y drefn dan feddiant y Mamluks, a ailadeiladodd y gaer yn y ganrif ganlynol o dan Swltan Qansah al-Ghouri.
Yn yr 16g, mae'n ymddangos y dref fel Akaba neu Aqaba, a'r cyntaf i sôn amdano oedd Ibn Ilyas. Yn 1516, aeth i'r Otomaniaid pan oedd yn bentref gyda dim ond 50 o dai yr oedd yn eu masnachu gyda'r Bedouin Huwaytat yn yr ardal. Gydag agor Camlas Suez yn 1869 a Rheilffordd Hejaz ym 1908 tanseiliwyd y dref rhag bod yn orsaf ar gyfer pereririon a oedd am fynd i Mecca. Ym 1898, roedd garsiwn Twrcaidd a oedd yn gwylio'r ffin â'r Sinai, a ddelid gan y Prydeinwyr, ac a oedd yn rhan o dalaith Hedjaz, a safle Muhafiz yn dibynnu ar y Wali o Djedda.
Caer Aqaba
Ym mis Gorffennaf 1917 bomiwyd y gaer gan y Prydeinwyr, Thomas Edward Lawrence (Lawrence o Arabia) a ymgyrchau dros uno'r llwythi Arabaidd mewn gwrth-ryfel yn erbyn y Twrciaid. Bydd nifer o bobl yn gyfarwydd gyda'r hanes o'r ffilm Lawrence of Arabia[4] .Difrodwyd y dref yn fawr. Tan 1925 roedd yn rhan o deyrnas Hedjaz yr Hasimiaid (brenhinllin brenhinoedd Gwlad yr Iorddonen), ond pan feddiannwyd y wladwriaeth gan Deyrnas Wahhabi y Najd neu Nedjed, cafodd y ddinas a holl ardal Maan eu hatodi i Trawsiorddonen (Gwlad Iorddonen yn ei hymddangosiad gyntaf), a reolwyd hefyd gan Hasimiaid. Yn 1942, adeiladodd y cystrawennau Prydeinig ac adeiladu ffordd a oedd yn ei chysylltu â'r rheilffordd i Nakb Shitar i'r de-orllewin o Maan. Darganfuwyd adfeilion hynafol Aylat neu Ayla ger y ddinas (gogledd) gan dîm Israel-Americanaidd yn yr 1980au.
Ar ôl Rhyfel Palestina 1948-1949, cynyddodd y boblogaeth yn gyflym. Ym 1954, penderfynwyd sefydlu'r porthladd. Yn 1965, cafwyd cytundeb drwy Hussein I ar ran Gwlad Iorddonen a Arabia Sawdi, gyda'r Iorddonen yn ennill 6,000 km² o dir anial a thua 12 km o arfordir i'r de o Acaba tra'n ffaeru i AS rhyw 7,000 km dir anial yn ne-ddwyrain y wlad.[5] Golygodd hyn fod Gwlad Iorddonen yn gyfrifol am cwrel Yamanieh a bu'n gylfe i ehangu'r porthladd, ym mis Awst 2000 crëwyd parth economaidd arbennig o amgylch Acaba. Digwyddodd ymosodiad lansiwr ar 20 Awst 2005 o du Acaba yn erbyn yr Israeliaid Eilat.
Acaba heddiw
Fel unig borthladd Gwlad Iorddonen mae Acaba yn dref o bwys. Mae hefyd yn rhan o 'driongl euraidd' i dwristieth y wlad gan gyfuno gyda Petra a Wadi Rum o greu cylchdaith atyniadol.[6]
Yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi dod yn ganolfan dwristiaeth gyda thraethau a gwestai moethus a gweithgareddau chwaraeon morol. Gwnaed ymdrech i amddiffyn y rîff cwrel sydd ym Mae Acaba. Mae polyn baner Acaba gyda'r talaf yn y byd, yn chwifio baner Gwlad Iorddonen i'w weld yn glir o ochr Israel o'r ffin.
Oriel
Golygfa o Acaba
canolfan siopa
Porth Ddwyreiniol adfeilion Ayla
Machlud
Golygfa o'r Ddinas
yr hen Gaer
Porthladd Acaba, sydd nawr yn y broses o gael ei hadleili i'r de o'r ddinas
Cyfeiriadau
↑Dirk Hecht: Rock Art in the Aqaba-Area. In: Orient-Archäologie. Band 23 (2009), 113-126.