Awdures ac ymgyrchydd o Gymru yw Angharad Tomos (ganed 19 Gorffennaf 1958 ).
Bywgraffiad
Fe'i ganed ym Mangor , Gwynedd ym 1958, a chafodd ei magu yn un o bum chwaer yn Llanwnda ger Caernarfon . Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle . Cychwynodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth , ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith . Cafodd radd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn ddiweddarach.
Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith . Enillodd Fedal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd ym 1981 ac eto ym 1982 â'i chyfrol Hen Fyd Hurt .
Mae hi'n ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres Rwdlan , a leolir yng Ngwlad y Rwla. Rala Rwdins oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, cyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1983.
Ym 1985 derbyniodd wobr yr Academi Gymreig am ei nofel Yma o Hyd sydd am fywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohnno fel ymgyrchydd iaith. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1991 ac ym 1997, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith yn ogystal, ym 1986 ac 1994
Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at llenyddiaeth plant yng Nghymru.[ 1]
Mae hi'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-groes , Gwynedd .
Ymgyrchu
Mae Tomos yn ymgyrchydd sydd wedi cefnogi sawl achos. Yn ogystal ag ymgyrchoedd dros y Gymraeg mae hi wedi gweithredu dros heddwch a gwrth-ryfel[ 2] ac yn erbyn cerflun Henry Morton Stanley yn Ninbych[ 3] .
Llyfryddiaeth
Yma o Hyd (Y Lolfa, 1985)
Y Llipryn Llwyd (Y Lolfa, 1985)
Titrwm (Y Lolfa, 1994)
Hen Fyd Hurt (Y Lolfa, 1992)
Sothach a Sglyfath , Cyfres Cled (Y Lolfa, 1993)
Stwnsh Rwdlan (Y Lolfa, 1997)
Parti Cwmwl (Y Lolfa, 1998)
'Dydw i Ddim Eisiau' - Stori Jona (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
'Un Bach Ydwyf' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
Ar y Brig - Stori Saceus (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
I Mewn i'r Arch â Nhw (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
Paid Siglo'r Cwch (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
Rhywun i'w Garu (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
Y Wal Na Ddaeth i Lawr (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
Yn Ffau'r Llewod (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
Nadolig heb Goeden (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
Cnonyn Aflonydd (Gwasg Gwynedd, 2001)
I Mewn i'r Arch â Nhw (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001)
Nadolig heb Goeden (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001)
Hiraeth am Yfory (Gwasg Gomer, 2002)
Rhagom (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
Wele'n Gwawrio (Y Lolfa, 2004)
Dysgu'r Wyddor gyda Rwdlan (Y Lolfa, 2005)
Eira'r Gaeaf (Y Lolfa, 2010)
Pecyn Cyfres Darllen Mewn Dim (Y Lolfa, 2007)
Si Hei Lwli (Y Lolfa, 2005)
Wrth fy Nagrau i (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
Gwanwyn Gwlad y Rwla (Y Lolfa, 2010)
Haf Braf (Y Lolfa, 2010)
Halibalŵ Yr Hydref (Y Lolfa, 2010)
Bodlon - Byw'n Hapus ar Lai (Gwasg Gwynedd, 2011)
Llyfr Lliwio Gwlad y Rwla (Y Lolfa, 2011)
Tua'r Dyfodol (Caernarfon : Cyngor Gwynedd, 2014)
Darn Bach o Bapur (Gwasg Carreg Gwalch, 2014)
Paent! (Gwasg Carreg Gwalch, 2015)
The Empty Room (Gwasg Carreg Gwalch, 2016)
Henriét y Syffrajét (Gwasg Carreg Gwalch, 2018)
Y Castell Siwgr (Gwasg Carreg Gwalch, 2020)
Gwobrau ac anrhydeddau
Cyfeiriadau
Dolenni allanol