Andy Schleck

Andy Schleck
GanwydAndy Raymond Schleck Edit this on Wikidata
10 Mehefin 1985 Edit this on Wikidata
Dinas Lwcsembwrg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethLwcsembwrg Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Taldra186 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau68 cilogram Edit this on Wikidata
TadJohny Schleck Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://andyschleckofficial.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTinkoff-Saxo, Trek-Segafredo Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonLwcsembwrg Edit this on Wikidata

Seiclwr proffesiynol o Lwcsembwrg yw Andy Schleck (ganwyd 10 Mehefin 1985). Mae wedi reidio dros Team Saxo Bank ers 2005, ac yn cystadlu yn nghyfres yr UCI ProTour. Mae'n frawd iau i Fränk Schleck, sydd hefyd ar Team Saxo Bank. Cystadlodd eu tad, Johnny Schleck, yn y Tour de France a'r Vuelta a España rhwng 1965 ac 1974.

Bywgraffiad

Ganwyd Schleck yn ninas Lwcsembwrg, yn fab i Gaby a Johnny Schleck, cyn-seiclwr proffesiynol a oedd wedi cynrychioli timau megis Pelforth a Bic. Roedd tad Johnny, Gustav Schleck, hefyd wedi cystadlu mewn rasys seiclo yn ystod yr 1930au.[1]

Gyrfa amatur

Ymunodd Schleck glwb seiclo VC Roubaix yn 2004, gan ddal sylw Cyrille Guimard, cyfarwyddwr chwaraeon a ddaeth yn adnabyddus fel directeur sportif sawl enillydd y Tour de France, gan gynnwys Bernard Hinault, Laurent Fignon, Lucien Van Impe a Greg LeMond. Disgrifiodd Guimard Schleck fel un o'r reidwyr mwyaf dawnus oedd wedi ei weld a cymharodd ef gyda Laurent Fignon.[1][2]

Enillodd Schleck ras gymalau Flèche du Sud yn 2004, pan oedd ond yn 18 oed ac dal yn reidiwr amatur. Roedd tîm cenedlaethol Denmarc hefyd yn cystadlu yn y ras honno, a lledaenodd y newyddion am ei gampau i reolwr Danaidd Team CSC, Bjarne Riis. Holodd Riis frawd Andy, Fränk, a oedd eisoes ar dîm CSC, ynglŷn a'i frawd ac yn fuan wedyn, ar 1 Medi 2004 dechreuodd Andy reidio fel stagiaire (reidiwr dan hyfforddiant) dros Team CSC. Sicrhaodd gytundeb proffesiynol gyda'r tîm gan gystadlu yn ei ras ProTour cyntaf, y Volta a Catalunya, pan oedd yn 19 oed yn 2005.

Gyrfa broffesiynol

Enillodd Andy Bencampwriaeth Cenedlaethol Treial Amser, tra enillodd ei frawd Fränk y Bencampwriaeth Ras Ffordd. Cafodd Schleck ddamwain yn y GP Cholet yn 2006, a cymerodd saib o wyth wythnos cyn dychwelyd i rasio yn y Volta a Catalunya ym mis Mai. Ym mis Gorffennaf, cwpl o ddyddiau wedi i'w frawd ennill cymal Alpe d'Huez y Tour de France, enillodd Andy y prif gymal mynyddig yn y Sachsen Tour, yn ogystal a'r cymal terfynol, gan orffen yn 23ydd yn y dosbarthiad cyffredinol.

Enillodd y dosbarthiad reidiwr ifanc yn Giro d'Italia 2007, ac yn ail tu ôl i Danilo Di Luca yn y dosbarthiad cyffredinol. Gorffennodd yn bedwerydd yn y Giro di Lombardia wedi iddo roi cymorth i'w frawd Fränk, a oedd wedi cael damwain gyda 6 km i fynd.[3]

Parhaodd llwyddiant Schleck yn 2008, pan enillodd dosbarthiad reidiwr ifanc y Tour De France,[4] gan guro Roman Kreuziger, a helpu Team CSC i ennill y dosbarthiad tîm a chefnogi buddugoliaeth Carlos Sastre.

Enillodd ei fuddugoliaeth pwysicaf hyd yn hyn yn Ebrill 2009, gan ennill ras Liege-Bastogne-Liege mewn gwyntoedd cryf, ef oedd enillydd cyntaf y ras i ddod o Lwcsembwrg ers Marcel Ernzer ym 1954.[4] Cwpl o ddyddiau ynghynt roedd wedi dod yn ail yn ras glasurol La Flèche Wallonne.

Gorffennodd Andy yn ail yn Tour de France 2009, tu ôl i Alberto Contador ac o flaen Lance Armstrong. Daeth hefyd yn drydydd yng nghymal 17, enillwyd y cymal hwnnw gan ei frawd Fränk, gyda Alberto Contador yn ail. Cipiodd y fuddugoliaeth yn nosbarthiad reidiwr ifanc y Tour de France am yr ail flwyddyn yn olynol.

Canlyniadau

2004
1af Baner Luxembourg Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Lwcsembwrg - Odan 23
1af Baner Luxembourg Pencampwriaeth Cenedlaethol Treial Amser Lwcsembwrg - Odan 23
1af Flèche du Sud
2005
1af Baner Luxembourg Pencampwriaeth Cenedlaethol Treial Amser Lwcsembwrg
2006
1af Sachsen Tour
1af Stage 3
1af Stage 5
1af Dosbarthiad y mynyddoedd, Tour of Britain
2007
8fed Tour de Romandie
2il Giro d'Italia
1af Dosbarthiad reidiwr ifanc
4ydd Giro di Lombardia
2008
4ydd Liege-Bastogne-Liege
6ed Overall, Tour de Suisse
12fed Overall, Tour de France
1af Dosbarthiad reidiwr ifanc
5ed Ras Ffordd Dynion, Gemau Olympaidd
2009
1af Baner Luxembourg Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Lwcsembwrg
1af Liege-Bastogne-Liege
1af Stage 2, Tour de Luxembourg
2il Overall, Tour de France
1af Dosbarthiad reidiwr ifanc
2il La Flèche Wallonne
8fed Monte Paschi Eroica
10fed Amstel Gold Race

Cyfeiriadau

Dolenni allanol


Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!