Dechreuodd King ei yrfa pêl-droed yn Academi Chelsea pan yn 9 mlwydd oed[2] ond ar ôl cael ei ryddhau, ymunodd â Chaerlŷr pan yn 15 mlwydd oed[2]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb ar 2 Hydref2007 mewn gêm ddi-sgôr yn erbyn Wolverhampton Wanderers[3] ac mae o bellach wedi gwneud dros 250 o ymddangosiadau i'r clwb.
Gyrfa ryngwladol
Mae'n gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd taid Cymreig[4] a chwaraeodd 10 o weithiau dros dîm dan 21 Cymru. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm llawn yn erbyn Estonia ym Mharc y Scarlets, Llanelli ym mis Mawrth 2009[5].