Seiclwr proffesiynol o'r Almaen ydy André Greipel (ganed 16 Gorffennaf 1982), sy'n arbennigo mewn rasio ffordd, fel sbrintiwr. Ganed yn Rostock, Dwyrain yr Alm
Seiclwr proffesiynol o'r Almaen ydy André Greipel (ganed 16 Gorffennaf 1982), sy'n arbennigo mewn rasio ffordd, fel sbrintiwr. Ganed yn Rostock, Dwyrain yr Almaen.
Mae'n byw yn Hürth, ger Cwlen yn yr Almaen. Wedi iddo ennill y Tour Down Under yn 2008, rhoddwyd iddo'r llysenw "Gorilla" gan amryw yn y cyfryngau.
Yn 2008, enillodd gymal Grand Tour am y tro cyntaf yn y Giro d'Italia a'i brif tour cyntaf, y Tour Down Under.
Cystadlodd Greipel yn Vuelta a España 2009 fel prif sbrintiwr tîm Columbia – HTC, gan gymryd mantais o'r cymalau gwastad a thîm arwain Columbia, enillodd gymalau 4, 5, 16, a 21 mewn sbrintiau grŵp. Enillodd hefyd y gyrs werdd glodfawr am y dosbarthiad bwyntiau. Daeth Greipel a thymor 2009 i ben gyda 20 buddugoliaeth, yn ail o ran y nifer o fuddugoliaethau, i'w gyd aelod tîm Mark Cavendish.[1]
Yn 2010 enillodd ei ail gymal o'r Giro d'Italia ac enillodd y Tour Down Under am yr ail waith.
Yn 2011, wedi symud i Omega Pharma-Lotto, cafodd ei fuddugoliaeth cyntaf yn y Tour de France yng nghymal 10, gan guro ei brif wrthwynebydd a'i gyn cyd-aelod tîm, Mark Cavendish.
Yn Tour de France 2012, roedd Greipel a'i îm Lotto-Belisol yn llawn gobaith i gipio cymalau. Bu bron i hyn ddigwydd cyn gynhared a chymal 2 lle curwyd gan Mark Cavendish, er iddo gyfaddef y bu ei drên arwain yn berffaith.[2] Cymal 4 a orffennod yn Rouen oedd y cymal nesaf â sbrint grŵp, a bu damawain ychydig cyn 3 cilomedr i fynd, a gynhwysodd Cavendish ymysg eraill. Osgodd Greipel y ddamwain a churo Alessandro Petacchi a Tom Veelers i gipio'r cymal.[3] Ailadroddodd Greipel ei fuddugoliaeth y diwrnod canlynol yng nghymal 5.[4]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.